Mater - penderfyniadau
Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gweithredu
04/08/2023 - Governance and Audit Committee Self-Assessment - Action Plan
Cyflwynodd y Cadeirydd a Sally Ellis (cyn Gadeirydd) adroddiad a chynllun gweithredu i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r hunan-asesiad a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022. Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei ddefnyddio i ddangos effeithiolrwydd y Pwyllgor a llywio anghenion datblygu’r dyfodol. Nodwyd amrywiaeth o gamau gweithredu ynghyd ag amserlenni a fyddai’n arwain at welliannau pellach o fewn y Cyngor.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at gam gweithredu 2.2 a oedd yn ailadrodd yr arfer presennol i’r Pwyllgor wahodd swyddogion cyfrifol i roi eglurhad ar y camau gweithredu allweddol a risgiau, fel y dangoswyd yn yr eitem flaenorol ar y rhaglen.
Bu i’r Cynghorydd Bernie Attridge ddiolch i’r Cadeirydd a Sally Ellis am eu gwaith ar yr adroddiad a chroesawu’r broses i ddangos atebolrwydd ar gyfer y camau gweithredu. Dywedodd y Cadeirydd bod Arweinydd y Cyngor wedi cytuno i gyfarfod ag ef a’r Is-gadeirydd bob chwarter.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Parch Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynllun gweithredu yn cael ei dderbyn.