Mater - penderfyniadau
Ymyrraeth a Chymorth Cynnar yn y Gwasanaethau Plant
21/08/2023 - Early Help and Intervention in Children’s Services
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y Canolbwynt Cymorth Cynnar wedi’i ddatblygu yn 2017 i ddod ag asiantaethau at ei gilydd i dargedu cymorth i deuluoedd sydd mewn angen nad oedden nhw’n bodloni’r trothwyon statudol ar gyfer gofal cymdeithasol plant ond oedd â dangosyddion clir o ran anghenion a oedd yn aml yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod.
Eglurodd fod y galw am y gwasanaeth hwn wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd a bod mwyafrif yr atgyfeiriadau gan rieni plant rhwng 10 a 15 oed yn ceisio gwybodaeth a chyngor. Felly ar ddiwedd 2022 trefnwyd cyfres o weithdai a arweiniodd at ddatblygu’r gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a ddechreuodd weithredu ym mis Chwefror 2023. Roedd y gwasanaeth yn darparu cymorth i deuluoedd trwy sgyrsiau â thîm o weithwyr medrus.
Gofynnodd y Cynghorydd Debbie Owen am eglurhad ynghylch sut i gysylltu â'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gan ei fod yn wasanaeth newydd ar hyn o bryd, y dylai pobl gysylltu â'r Gwasanaethau Plant a gofyn am y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ond eu bod nhw’n edrych ar gael rhif ar wahân yn dibynnu ar y galw am y gwasanaeth.
Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Mackie am eglurhad ynghylch y Canolbwynt Cymorth Cynnar a'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr atgyfeiriadau i'r Canolbwynt Cymorth Cynnar a oedd yn cymryd 4 i 6 wythnos, fod y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn hidlo'r rhai yr oedd angen gwybodaeth a chymorth arnynt yn hytrach na phecyn cymorth.
Awgrymodd y Cynghorydd McGuill, o ran yr eglurhad a roddwyd rhwng y Canolbwynt Cymorth Cynnar a'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, mai'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ddylai fod yr unig rif cyswllt i rieni gysylltu ag ef i ofyn am gyngor ac yna gellid eu cyfeirio nhw at wasanaethau eraill pe bai angen. Gofynnodd hi hefyd am ddadansoddiad o'r atgyfeiriadau i gyd ac o ble yr oedden nhw’n dod gan fod yr adroddiad yn awgrymu eu bod nhw i gyd yn dod o Lannau Dyfrdwy - a chytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i'w ddosbarthu.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a ddaeth unrhyw atgyfeiriadau o’r ardaloedd gwledig. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r ardaloedd y cafodd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau ac y cafwyd atgyfeiriadau ledled Sir y Fflint.
Fel arsylwr, holodd y Cynghorydd Parkhurst pa gamau oedd yn cael eu cymryd o ran sicrhau bod gan ofalwyr ymlyniad cadarnhaol â'u plant. Mewn ymateb i hyn, dywedodd yr Uwch Reolwr ei bod hi’n gweithio'n agos gyda Gail Bennett a'i thîm a bod ei thîm hi’n gweithio'n agos gydag ymwelwyr Iechyd a’r Blynyddoedd Cynnar i gefnogi teuluoedd sydd ag anawsterau ag ymlyniad sy'n gysylltiedig â gwasanaethau mabwysiadu hefyd. Dywedon nhw fod ganddyn nhw gysylltiadau agos â phartneriaid statudol a gwasanaethau drws ffrynt hefyd.
Rhoddodd y Cynghorydd Mackie ei gefnogaeth i'r mentrau yr oedd y Rheolwr Gwasanaeth yn ymchwilio iddynt ac i ble y gallai'r rhain arwain iddo gan ei fod yn credu mai dyna'r ffordd ymlaen.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a’r ymrwymiad parhaus i’r Canolbwynt Cymorth Cynnar yn rhan o raglen ehangach i gefnogi teuluoedd sy’n wynebu trawma yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sydd newydd gael eu datblygu i roi cymorth i deuluoedd drwy sgyrsiau medrus a fydd yn egluro meddyliau pobl ac yn archwilio eu hamgylchiadau nhw fel y gallwn ni ddeall “Yr Hyn sy’n Bwysig” iddyn nhw a’r ffordd orau o’u cefnogi.