Mater - penderfyniadau

Communal Heating Charges 2023/24

21/02/2024 - Communal Heating Charges 2023/24

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Tai a Chymunedau yn gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol yn Sir y Fflint, gyda 417 o eiddo ar systemau gwresogi ardaloedd cymunedol.  Roedd y Cyngor wedi aildrafod y tariff tanwydd ar gyfer 2023/24 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2023.

 

Roedd y gyfradd gyfnewidiol ar gyfer nwy yn cynyddu oddeutu 420% ar gyfer y 12 mis nesaf.  Hyd yma, roedd tenantiaid ardaloedd cymunedol wedi elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor ac roeddent wedi’u diogelu rhag y cynnydd o ran pris ynni a oedd wedi effeithio ar denantiaid cymdeithasol eraill.  Fodd bynnag, byddai’r cynnydd yn y tariff yn effeithio ar denantiaid oedd yn byw mewn eiddo ar y systemau gwresogi ardaloedd cymunedol bellach.  Wrth roi gwybod i denantiaid am eu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2022/23, rhoddwyd hysbysiad am y cynnydd tebygol o ran ffioedd yn 2023/24 er mwyn adlewyrchu costau ynni byd-eang.

 

Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn.  Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen i’r Cyngor gynyddu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn unol â’r cynyddiadau i’r tariff.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Tai ac Asedau fod yr ad-daliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u bod yn dod i rym o fis Gorffennaf.  Byddai unrhyw oedi wrth weithredu’r ffioedd yn golygu y byddai angen adennill y gost i denantiaid mewn cyfnod byrrach, a fyddai’n anfanteisiol i’r tenantiaid hynny oherwydd byddai’r ffi wythnosol yn uwch.  Byddai cefnogaeth yn parhau i’r tenantiaid a oedd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Bibby fanylion y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yr wythnos flaenorol, pan ofynnodd y Pwyllgor fod y cynnydd arfaethedig yn cael eu rhannu dros gyfnod hwy.  Fodd bynnag, eglurodd y byddai goblygiadau ariannol pe bai hyn yn cael ei weithredu.  Ymrwymodd Swyddogion i wneud darn o waith i ganfod a ellid lliniaru'r cynnydd sylweddol.  Roedd y gwaith hwnnw wedi’i wneud ac nid oedd cwmpas i rannu’r costau dros gyfnod hwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.