Mater - penderfyniadau
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25
23/10/2023 - Medium Term Financial Strategy and Budget 2024/25
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y cam cyntaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gofyniad y gyllideb ar gyfer 2024/25. Mae’r adroddiad yn nodi’r rhagolygon diwygiedig cyn i bwysau o ran cost a chynigion effeithlonrwydd gael eu hadolygu yn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu. Mae gweithdy cyllideb wedi cael ei drefnu ar gyfer 31 Gorffennaf a byddai’n darparu Aelodau gyda’r cyfle i ennill gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol ac yn cyfrannu at strategaeth gyllideb ddatblygol.
Ar y cyfnod hwn, mae’r rhagolygon wedi’u hadolygu yn awgrymu gofyniad cyllideb ychwanegol o £32.222m o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25, gan gymryd i ystyriaeth y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o newidiadau hysbys i alw mewn gwasanaeth a’r effeithiau parhaus o chwyddiant. Mae’r rhan fwyaf o’r pwysau o ran costau yn berthnasol i’r dyfarniadau cyflog a gytunwyd arnynt yn genedlaethol ynghyd â phwysau o ran chwyddiant a’r galw ar wasanaeth gofal cymdeithasol.
Er bod y dyraniad dangosol gyda chynnydd o 3.1% ar gyfer 2024/25 (wedi’i ddarparu fel rhan o Setliad Llywodraeth Cymru 2023/24) wedi cael ei groesawu, roedd ar lefel llawer iawn is na’r blynyddoedd a fu, gan adlewyrchu cynnydd posib o oddeutu £7.8m. Pe bai hynny’n parhau i aros yr un fath, byddai heriau sylweddol i’r gyllideb ar gyfer 2024/25 i gwrdd â gofynion y gwasanaeth ac effeithiau chwyddiant, a’r rhan fwyaf ohonynt y tu allan i reolaeth y Cyngor. Roedd angen datblygu strategaeth cyllideb fanwl ar y cyd â chyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar y rhagolwg ariannol ar draws Cymru. Roedd yr amserlen yn yr adroddiad yn cynnwys y broses ar gyfer ymgynghori ac adroddiadau diweddaru ar ragolygon ac atebion.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Allan Marshall a’i heilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes materion penodol i’w hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad.