Mater - penderfyniadau

Revenue budget monitoring 2023/24 (Interim)

10/04/2024 - Interim Revenue Budget Monitoring Report 2023/24

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 lle’r adroddwyd drwy eithriad ar amrywiaethau arwyddocaol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2023/24.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai dim ond yn yr adroddiad roedd risgiau ariannol wedi eu hamlygu yn ystod y cyfnod cynnar hwn.  Byddai’r gallu i liniaru’r risgiau hynny yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm a chyllid grant.

           

Lefel derfynol Cronfa Wrth Gefn At Raid Cronfa'r Cyngor a ddygwyd ymlaen i 2022/23 oedd £9.508 miliwn fel y manylir yn adroddiad sefyllfa derfynol 2022/23 (yn amodol ar archwiliad).

 

Roedd cyfanswm o £3.743 miliwn yn parhau ar gael o’r gronfa argyfwng COVID gwreiddiol £5.316 miliwn a glustnodwyd.

 

Byddai adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fyddai’n rhoi rhagamcan ar y sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2023/24.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni wnaed unrhyw sylwadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad ar gyllideb 2023/24 a’r risgiau ariannol posibl; a

 

(b)       Chymeradwyo’r dyraniad o £0.100 miliwn o’r Gronfa Arian at Raid ar gyfer Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd.