Mater - penderfyniadau
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2023/24
23/10/2023 - Treasury Management Annual Report 2022/23 and Treasury Management Update Q1 2023/24
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys yn 2022/23 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2023/24 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd. Yn unol â’r broses arferol, byddai sesiwn hyfforddi ar gyfer yr holl aelodau’n cael ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2023 cyn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25.
Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys effaith materion economaidd a chyfraddau llog yn ystod y cyfnod. Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2023/24 yn rhoi diweddariad ar fuddsoddiadau a gweithgaredd benthyca.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am adran 3.02 o’r Adroddiad Blynyddol, cytunodd swyddogion i roi ymateb ar wahân i’r ffigurau gwahanol ar gyfer y ddyled newydd a ddangosir yn y tablau ar weithgarwch benthyca.
Gofynnodd Sally Ellis am y gofynion benthyca i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gweddill 2023/24. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y cyd â chyngor gan Arlingclose, byddai’r strategaeth i ddefnyddio benthyca byrdymor wedi’i gydbwyso gyda chyfraddau llog yn parhau, a byddai’n cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau chwarterol i’r Pwyllgor. Yn dilyn cwestiwn pellach, fe gadarnhaodd bod y gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi cynorthwyo â’r gwaith o reoli’r trysorlys.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Sally Ellis a Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol drafft 2022/23, heb unrhyw faterion i’w tynnu i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a
(b) Nodi’r diweddariad chwarter cyntaf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2023/24.