Mater - penderfyniadau

Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2022/23

23/10/2023 - Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2022/23

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y wybodaeth ariannol atodol sy’n cyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2022/23, yn unol â’r cais a wnaed yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.  Cytunodd i gynnwys colofn ychwanegol yn Nhablau 1 a 2 ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol er mwyn cymharu gwariant gyda’r flwyddyn flaenorol, yn unol â chais Sally Ellis.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd am Dabl 2, siaradodd y Prif Weithredwr am yr heriau recriwtio mewn rhai gwasanaethau a rhoddodd sicrwydd bod proses gadarn ar waith i gymeradwyo ac adolygu apwyntiadau dros dro.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i sylwadau am benodi Cyfreithiwr Plant a Diogelu a oedd yn swyddog arbenigol medrus i ddelio gydag ystod o faterion cyfreithiol cymhleth.   Cyfeiriodd at nifer o swyddi dros dro yn ei bortffolio a benodwyd drwy ddull cydlynol i helpu i reoli’r galw am wasanaethau, yn benodol yng Ngwasanaethau Plant.   Siaradodd am y camau sy’n cael eu cymryd gan y Cyngor i wella recriwtio a chadw staff a thynnodd sylw at y prinder cenedlaethol mewn swyddi megis Gweithwyr Cymdeithasol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon am rai o’r costau oedd wedi cael eu dyfynnu a gofynnodd am y broses gymeradwyo.   Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd am gadernid polisïau a rheolau'r Cyngor ar benodi a chadw gweithwyr asiantaeth.   Dywedodd bod recriwtio Cyfreithiwr i ddelio gyda llwythi achosion oedd yn gynyddol gymhleth yn golygu bod angen sgiliau arbenigol i sicrhau bod y broses gyfreithiol gywir yn cael ei dilyn a lliniaru unrhyw risgiau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Linda Thomas a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.