Mater - penderfyniadau

Datganiad Cyfrifon Drafft 2022/23

23/10/2023 - Draft Statement of Accounts 2022/23

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol  Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2022/23 (yn amodol ar archwiliad) er gwybodaeth yn unig ar hyn o bryd.  Roedd y rhain yn cynnwys y cyfrifon Gr?p, gan gynnwys is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a adolygwyd yn y cyfarfod blaenorol.  Byddai’r cyfnod ymgynghori agored yn ystod yr haf yn gyfle i Aelodau godi unrhyw agwedd ar y cyfrifon gyda swyddogion cyn i’r Pwyllgor dderbyn y fersiwn wedi’i archwilio terfynol i’w gymeradwyo ym mis Tachwedd.

 

Roedd cyflwyniad yn trafod y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Pwrpas a Chefndir y Cyfrifon

·         Cynnwys a Throsolwg

·         Cyfrifoldeb am y Cyfrifon

·         Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb

·         Newidiadau i Ddatganiad Cyfrifon 2022/23

·         Materion ac Effeithiau Allweddol

·         Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Symudiadau Arwyddocaol, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Cadarnhawyd bod y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau a’u cyflwyno o fewn terfyn amser Llywodraeth Cymru a oedd wedi cael ei ymestyn i ystyried cyfrifon priodol o werthusiadau asedau mewn cyfnod o chwyddiant uchel ac effeithiau’r pandemig.  Roedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi’i ymestyn tan 30 Tachwedd 2023.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod yr heriau o ran llunio’r cyfrifon a rhoddodd deyrnged i waith caled y tîm.   O ran yr adroddiad naratif, cyfeiriodd at ddata rhaglen gyfalaf ar dudalennau 3 a 5 ac awgrymodd y byddai cymharu gwariant yn erbyn y gyllideb yn help i’r darllenwr.

 

Fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol er nad oedd cyflwyno’r data wedi newid, byddai’n cynnwys colofn ychwanegol mewn datganiadau yn y dyfodol i ddangos amrywiaethau ar draws portffolios ynghyd â diffiniad clir i eiriad penodol, megis ‘asedau diymwad’.

 

O ran ôl-ddyledion rhent, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i rannu eglurhad am y gwahaniaeth yn y sefyllfa derfynol a ddangosir yn yr adroddiad naratif (nad oedd yn cynnwys gordaliadau, cyn-daliadau ac ati), o’i gymharu â’r swm ar nodyn 13 sy’n adlewyrchu'r swm gwirioneddol ar y fantolen ar gyfer dyledwyr byrdymor.  Er bod lefelau casglu rhent yn Sir y Fflint yn uchel, mae’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn genedlaethol wedi cael ei nodi fel risg coch i gofrestr risgiau corfforaethol y Cyngor ac roedd yn cael ei fonitro’n agos gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.   O ran adennill Treth y Cyngor, roedd ymagwedd gadarn y Cyngor i fanteisio ar gasgliadau, ynghyd â chefnogaeth gymesur, wedi helpu i gynnal perfformiad da gan arwain at gyfradd gasglu o 97.4% yn 2022/23, sydd yn llawer uwch na’r cyfartaledd Cymreig.

 

O ran y cynnydd mewn balansau gwasanaeth, fe eglurodd y Swyddog y broses gadarn i herio ac adrodd, yn cynnwys ceisiadau cario ymlaen, fel y manylir mewn adroddiadau monitro’r gyllideb yn fisol i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Gofynnodd Sally Ellis am gynllunio ar gyfer gofynion yn y dyfodol ar werthusiadau asedau, a chafodd wybod y byddai’r broses bresennol yn cael ei chynnal yn flynyddol, er cysondeb.   Gan ymateb i gwestiynau pellach, nid oedd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol unrhyw bryderon am gyrraedd y dyddiadau cau diwygiedig ar gyfer 2023/24.  O ran lleihau arian wrth gefn Cronfa'r Cyngor a ddangosir yn y Datganiad Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn, dywedodd nad oedd unrhyw newid sylweddol a bod cronfeydd wrth gefn ysgolion bellach yn lleihau ar ôl lefelau uchel yn ystod y pandemig ac roeddynt yn cael eu monitro.   Gan ymateb i gais am fwy o eglurder am y Gronfa Bensiynau Wrth Gefn a ddangosir ar dudalen 39, cafwyd eglurhad bod ailwerthusiad yn 2022 wedi adlewyrchu sefyllfa well ac nad oedd y ffigurau, a ddangosir ar gyfer pwrpasau cyflwyno cyfrifon, yn effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

O ran yr oedi gyda chyflwyno 16 polisi cyfrifo SAARh o fis Ebrill 2024, dywedodd y Prif Gyfrifydd bod y gwaith ar waith i baratoi ar gyfer y newidiadau a oedd yn ymwneud â chydnabod prydlesu yn y datganiadau ariannol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at Ddatganiad Incwm a Gwariant y Cyfrif Refeniw Tai a gofynnodd am golli incwm oherwydd eiddo gwag.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod hyn yn cael ei gynnwys yn y ffigurau incwm net a ddangosir yn y cyfrifon, gyda mwy o fanylder am amrywiaethau arwyddocaol yn cael eu hadrodd mewn diweddariadau am fonitro’r gyllideb i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.   Fe aeth ymlaen i gyfeirio at y broblem eang o ôl-ddyledion rhent sy’n gwaethygu a dywedodd fod gan y Cyngor ddarpariaeth ddrwgddyledion a fframwaith polisi cadarn adennill dyledion ar waith.   Roedd ymholiad am ffigurau stoc tai gwahanol sydd wedi’u dyfynnu yn y cyfrifon a’u hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, wedi digwydd oherwydd bod rhywfaint o’r eiddo’n wrthi’n cael eu hadeiladu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am farn am effaith ddiffygion pensiwn petai’r Gronfa Bensiynau yn dad-fuddsoddi mewn cwmnïau sydd yn ymwneud â thanwydd ffosil fel eu prif fusnes, a beth fyddai goblygiadau hynny ar gyllid y Cyngor. 

 

Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gael ymateb ysgrifenedig gan y tîm pensiynau.  Byddai hefyd yn ymateb ar wahân i gwestiynau am dderbynwyr benthyciadau meddal ac yswiriant/cofrestru risg eitemau heb eu prisio yn archif y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod strategaeth dad-fuddsoddi wedi cael ei chyhoeddi a’i chymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd gyda throsolwg gan ymgynghorwyr proffesiynol ac Actiwari y Gronfa.

 

O ran tâl swyddogion, fe gadarnhawyd mai’r diffiniad o Uwch Swyddogion oedd y Prif Weithredwr a’r rhai sydd yn adrodd yn uniongyrchol iddo fo, a bod Nodyn 26 yn rhestru manylion Uwch Swyddogion eraill.  O ran Nodyn 28, cyfeiriodd y Cynghorydd Parkhurst at yr adran am fuddiannau swyddogion mewn busnesau sydd yn derbyn taliadau gan y Cyngor a dywedodd y gallai Uwch Swyddogion sydd yn adrodd yn uniongyrchol i Brif Swyddogion gael rhywfaint o ddylanwad dros eu maes o gyfrifoldeb.  Gofynnodd am fwy o dryloywder ar gyfer yr unigolion hynny yn y cyfrifon.   Byddai swyddogion yn darparu ymateb ar wahân, ynghyd â chefndir ar y gostyngiad mewn derbyniadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Nodyn 28.

 

Pan ofynnodd Brian Harvey am ymagwedd y Cyngor i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent, siaradodd y Prif Weithredwr am yr ystod o fesurau ymyrraeth y mae timau’n eu defnyddio i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.   O ran ymgysylltu â’r cyhoedd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol tra bod argaeledd y cyfrifon ariannol yn cael ei gyhoeddi yn y wasg leol, roedd prif negeseuon yn cael eu cyfleu am y gyllideb i dynnu sylw at sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod yr arfer sefydledig o adolygu gwariant nad yw’n hanfodol ar draws pob gwasanaeth bellach yn rhan effeithiol o’r broses monitro’r gyllideb.   Er nad oedd y meysydd o wariant wedi cael eu tynnu o’r gyllideb yn llwyr, roeddynt yn ffurfio rhan o’r ystyriaeth tuag at liniaru pwysau costau yn ystod y flwyddyn.

 

Pan ofynnwyd am y cynnydd mewn ffioedd archwilio, dywedodd Simon Monkhouse bod hyn yn bennaf oherwydd y safon archwilio diwygiedig, ISA 315, a oedd angen mwy o gymysgedd sgiliau i gynnal proses gynllunio mwy manwl i archwilio’r cyfrifon.   Gan mai dyma’r flwyddyn gyntaf iddo gael ei weithredu, y gobaith yw y byddai ffioedd yn lleihau dros amser wrth i’r newidiadau gael eu sefydlu.   Roedd lefelau chwyddiant uchel hefyd yn ffactor yn y ffioedd cynyddol.   O ran yr amserlen, roedd gwaith yn parhau i gyrraedd y terfyn amser terfynol i gymeradwyo ym mis Tachwedd ac roedd cynlluniau yn eu lle dros y tair blynedd nesaf i symud y dyddiad cau yn unol â’r blynyddoedd blaenorol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at  y geiriad cyferbyniol am bwrpas yr eitem ac argymhellion.   Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eu sylw at yr amserlen a rannwyd yn y cyflwyniad, yn cynnwys y cyfle i ofyn cwestiynau cyn i’r cyfrifon gael eu derbyn ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol ar 22 Tachwedd.

 

Fe awgrymodd y Cadeirydd argymhelliad diwygiedig er eglurder. Cafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Attridge a Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2022/23 (sy’n cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol); a

 

(b)       Bod yr Aelodau’n nodi’r cyfle i drafod unrhyw agwedd ar y Datganiad Cyfrifon Drafft gyda swyddogion neu Archwilio Cymru yn ystod y cyfnod archwilio, cyn i’r fersiwn archwiliedig terfynol ddod yn ôl at y Pwyllgor i’w gymeradwyo’n derfynol ar 22 Tachwedd 2023.