Mater - penderfyniadau

Adoption of Local Toilet Strategy

10/04/2024 - Local Toilet Strategy Review

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad ac eglurodd fod strategaeth toiledau lleol presennol Sir y Fflint wedi ei gymeradwyo a’i gyhoeddi ym Mai 2019.  Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu’r polisi bob dwy flynedd o pryd y cyhoeddodd neu yr adolygodd yr awdurdod lleol ei strategaeth ddiwethaf, ac o fewn blwyddyn i bob etholiad llywodraeth leol cyffredin.

 

Cyflwynwyd yr adolygiad o’r strategaeth ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 7 Mawrth 2023 pan gefnogodd Aelodau yr adolygiad arfaethedig o’r strategaeth toiledau lleol a’r ymagwedd arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad. Diben yr adroddiad oedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cabinet yn dilyn cyhoeddi holiadur yr ymgynghoriad a sut y byddent yn mynd i’r afael â’r sylwadau a godwyd yn y cynllun gweithredu arfaethedig.

 

Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei ymgorffori o fewn y strategaeth toiledau lleol cyn agor yr ymgynghoriad 12 wythnos ffurfiol ar y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig dros yr haf.

 

Nod y strategaeth newydd yw adlewyrchu uchelgais arweinyddiaeth y cyngor i ddarparu gwell cyfleusterau i breswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint.

 

Fe dderbyniodd yr holiadur 687 o ymatebion tua 430 o ymatebion fesul cwestiwn a darparwyd crynodeb o’r ymatebion. 

 

Byddai adroddiad arall, i fabwysiadu’r strategaeth yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod canlyniadau’r holiadur a chefnogi’r cynllun gweithredu a gyflwynwyd; a

 

(b)       Chefnogi’r adolygiad drafft o’r Strategaeth Toiledau Lleol a’r cynllun gweithredu a adnewyddwyd cyn lansio’r ymgynghoriad 12 wythnos.