Mater - penderfyniadau

North East Wales Community Equipment Service (NEWCES)

21/08/2023 - North East Wales Community Equipment Service (NEWCES)

Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) longyfarch y Cynghorydd Woolley a’r Cynghorydd McGuill ar eu penodiadau’n Gadeirydd ac Is-Gadeirydd ac ychwanegodd ei fod ef a’r swyddogion yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor hwn mor effeithiol ag y gwnaethon nhw yn y gorffennol cyn trosglwyddo i’r Uwch Reolwr Oedolion a'r Rheolwr Gweithrediadau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gweithrediadau yr adroddiad gan nodi bod Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) wedi’i ffurfio yn 2009 a oedd yn cael ei ariannu ar y cyd gan dri phartner sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir y Fflint ac mae ganddo unedau ym Mhenarlâg a Queensferry. Eu diben nhw oedd cyflenwi cyfarpar i leihau derbyniadau i'r ysbyty a chynyddu nifer y cleifion sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty er mwyn galluogi pobl i ymdopi'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.  Dywedodd hefyd fod 93% o'r eitemau yr oedden nhw’n eu casglu, pan nad oedd eu hangen nhw mwyach, yn cael eu hadnewyddu a'u gwirio o ran ansawdd cyn cael eu hailddefnyddio gan arbed tua £2.2 miliwn y flwyddyn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill ddiolch i Jamie a'i staff am yr ymweliad y bore hwnnw i Uned Penarlâg a gofynnodd i'r Pwyllgor argymell penodi prentisiaid, i osgoi defnyddio contractwyr, a fyddai'n arbed hyd yn oed rhagor o arian, ac eiliodd y Cadeirydd hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mackie bod y Pwyllgor yn diolch i Jamie a'i dîm am yr ymweliad a'r cyflwyniad a eiliodd y Cadeirydd, ac yr oedd yn dymuno eu llongyfarch nhw am barhau i wella'r cyfleusterau y maen nhw’n eu cyflenwi er mwyn parhau i arbed arian.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddiolch i’r Aelodau am eu sylwadau caredig.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Ymchwilio i’r posibilrwydd o gael prentisiaid yn gweithio gyda’r tîm;

 

(b)         Bod llythyr gan y Pwyllgor yn cael ei anfon at y tîm yn eu llongyfarch nhw am eu gwaith;

 

(c)          Bod yr Aelodau'n cydnabod y gwaith llwyddiannus y mae NEWCES yn ei wneud i gefnogi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty a dychwelyd yn ddiogel o’r ysbyty; a

 

(d)         Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud o ran ailddefnyddio cyfarpar a’r arbedion o ran costau i bartneriaid sy'n cefnogi'r rhaglen ranbarthol.