Mater - penderfyniadau

Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28

11/08/2023 - Council Plan 2023-28 Development

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

Roedd strwythur y Cynllun yn cynnwys saith blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol.  Roedd y saith blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf.  Amlinellwyd manylion pob blaenoriaeth.

 

Byddai Cynllun y Cyngor yn cael ei gyhoeddi mewn fformat tebyg i’r blynyddoedd blaenorol, gan nodi camau gweithredu gyda’r nod o gyflawni’r amcanion lles, blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau.  Byddai materion/risgiau cenedlaethol a rhanbarthol a allai effeithio ar gyflawniad y blaenoriaethau hynny yn cael eu nodi a’u monitro.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod Rhan 2 Cynllun y Cyngor wedi'i hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol, ac eithrio Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, er mwyn sicrhau bod Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2023-28 yn cael ei gynnwys yn llawn a'i fesurau a'u targedau priodol.   Cefnogodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y Cynllun a gwnaeth nifer o sylwadau.  Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Mehefin.

 

Canmolodd y Cynghorydd Healey y swyddogion am roi’r Cynllun at ei gilydd a dywedodd ei bod yn ddogfen llawn gweledigaeth a oedd yn dangos pa mor eang yw’r gweithgareddau a ymgymerir gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid cytuno ar ddogfennau Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i Flaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles Cynllun y Cyngor 2023-28; a

 

(b)       Bod y Prif Weithredwr yn cael yr awdurdod, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, i newid Cynllun y Cyngor i adlewyrchu sylwadau gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.