Mater - penderfyniadau
Cynllunio ar gyfer CCA Awyr Dywyll
11/08/2023 - Planning for Dark Night Skies SPG
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac eglurodd fod Sir y Fflint, ynghyd â Chynghorau Wrecsam a Sir Ddinbych, wedi llunio a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol ar y cyd yn ymwneud â dylunio a datblygu o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Yn dilyn hynny, cynhyrchwyd arweiniad pellach ar y cyd yn ymdrin â mater penodol golau a llygredd golau o fewn yr AHNE, gyda'r nod o ostwng ei lefel er mwyn cynorthwyo i sicrhau statws awyr dywyll i'r AHNE.
Roedd y canllawiau wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mhob un o ardaloedd y tri Chyngor ac wedi'u hystyried gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio a argymhellodd bod y Cabinet yn ei fabwysiadu. Roedd Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam eisoes wedi mabwysiadu'r canllawiau yn ffurfiol ac er mwyn rhoi’r pwys mwyaf arno fel ystyriaeth gynllunio berthnasol, roedd y Cabinet yn ceisio ei fabwysiadu.
Croesawodd y Cynghorwyr Healey a Johnson yr adroddiad, gan nodi ei fod wedi ei fabwysiadu gan Gynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo argymhelliad y Gr?p Strategaeth Gynllunio i fabwysiadu'n ffurfiol y Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Awyr Dywyll y Nos.