Mater - penderfyniadau

Disclosing and Barring Service Checks for Councillors

15/03/2024 - Disclosing and Barring Service Checks for Councillors

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyd-destun a lefel risg isel y materion a drafodwyd. Cynhaliwyd cryn dipyn o wiriadau yn anffurfiol cyn ethol yr ymgeiswyr, gan gynnwys cam ffurfiol llofnodi’r Datganiad cyn gallu sefyll fel ymgeisydd. Byddai hyn yn cymell rhai pobl i beidio â sefyll. Roedd yn bwysig amddiffyn unigolion diamddiffyn, enw da’r Cyngor a rôl y Cynghorydd.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog lefel y datgeliad y gallai'r Cynghorwyr ei ddisgwyl a’r cymhlethdodau cyfreithiol yr oedd yr adroddiad yn eu cynnwys. Roedd yn gydbwysedd rhwng yr hawl i wybod, preifatrwydd unigolyn ac adsefydlu sydd wedi’i ymgorffori yn y ddeddfwriaeth ac yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i gael datgeliad.   Gwelwyd gwybodaeth am y tair lefel o wiriadau ym mhwynt 1.01 yr adroddiad, gyda’r lefel fanwl yn ofynnol ar gyfer y Cabinet a’r Paneli Mabwysiadu a Maethu yn sgil y wybodaeth sensitif a fyddai’n cael ei rhannu. Yna, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at bwynt 1.07 yr adroddiad, gan ddweud y dylid cynnal gwiriadau safonol ar gyfer y Cynghorwyr hynny sydd ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gan eu bod yn cyflawni swyddogaethau’r Cyngor. Byddai’r gwiriadau sylfaenol yn ddigonol ar gyfer y Cynghorwyr eraill nad oeddent yn dal unrhyw un o’r rolau hyn.

 

            Eglurwyd y byddai canlyniadau’r gwiriadau’n cael eu hanfon at y Prif Swyddog (Llywodraethu) fel Swyddog Monitro, ac y byddai ef yn sicrhau eu bod yn aros yn gyfrinachol. Fodd bynnag, pe canfyddid bod gan aelod euogfarn a fyddai’n eu gwneud yn anaddas ar gyfer eu rôl, yna byddai trafodaethau’n cael eu cynnal â’r Aelod Cabinet neu’r Arweinydd Gr?p. Nid oedd gan y Prif Swyddog unrhyw awdurdod i benderfynu pwy sy’n eistedd ar y Cabinet na’r Pwyllgorau Craffu; byddai hyn yn dibynnu ar gydweithrediad yr Arweinydd ac Arweinwyr y Grwpiau. Pe canfyddid na ddylai Cynghorydd a gafwyd yn euog o drosedd a’i ddedfrydu i fwy na thri mis yn y carchar fod wedi bod yn gymwys i sefyll yn y lle cyntaf, byddai’r Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, ac Arweinydd eu Gr?p yn cael eu hysbysu. Golyga hyn y byddent yn cael eu diarddel oherwydd eu heuogfarn, bod eu rôl yn dod yn wag ac y byddai angen cynnal isetholiad. Byddai adroddiad yn cael ei anfon i swyddfa’r Ombwdsmon, gan ddilyn proses a fyddai’n rhoi ystyriaeth annibynnol a diduedd o breifatrwydd yr unigolyn hwnnw. Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chadw’n gyfrinachol, gan gyfyngu ar fynediad yn dilyn canllawiau a osodwyd gan ddeddfwriaeth.

 

            Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn cefnogi’r adroddiad pwysig iawn hwn yn llawn. Gofynnodd a oedd y Prif Swyddog wedi cymryd cyngor gan Swyddogion Monitro eraill i ganfod beth yr oedd awdurdodau eraill yn ei wneud o ran gwiriadau manwl y DBS, ac a allai CLlLC fynd â hyn i’r lefel nesaf. Awgrymodd hefyd y dylid lobio Llywodraeth Cymru (LlC) er mwyn gallu gwneud newidiadau i’r canllawiau fel bod gwiriadau DBS yn cael eu cynnal ar gyfer pob aelod lleol bob 4 mlynedd.

 

            Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) â’r pwynt am ffurfioldeb y gwiriadau, gan ddweud nad oedd y rhain yn cael eu cynnal ar gyfer pob Cynghorydd cyn iddynt sefyll, ond bod lefelau eraill o amddiffyniad wedi’u sefydlu. Gan gyfeirio at y pwynt am lobio, dywedodd mai'r sail ar gyfer cynnal y gwiriadau manwl ar gyfer y rhan fwyaf o bobl oedd eu bod yn dod i “gysylltiad rheolaidd heb oruchwyliaeth ag unigolion diamddiffyn”.  Roedd rolau gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal y Cyngor yn gofyn am wiriadau manwl rheolaidd, gan gynnwys rhestrau gwaharddedig, yn sgil eu cyswllt rheolaidd heb oruchwyliaeth ag unigolion diamddiffyn. Gofynnodd i aelodau’r Pwyllgor pa mor aml yr oeddent yn dod i gysylltiad heb oruchwyliaeth ar eu pennau eu hunain ag unigolion diamddiffyn. Roedd yn fwy tebygol o fod gydag oedolyn na phlentyn, a fyddai yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Byddai dod i gysylltiad heb oruchwyliaeth ag unigolyn diamddiffyn fel hyn yn cynnig tystiolaeth hanfodol er dibenion lobio, a byddai’n ei gwneud yn bosib uwchgyfeirio hyn drwy Gr?p y Swyddogion Monitro ac ar y cyd ag awdurdodau eraill ymlaen i CLlLC, LlC a San Steffan i newid y gyfraith.

 

            Gan gyfeirio at y pwynt am sut yr oeddem yn cymharu ag awdurdodau eraill, cadarnhaodd y Prif Swyddog ei fod wedi gweld polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddweud fod yr hyn oedd dan ystyriaeth yn fwy beichus na pholisi Wrecsam, gan nad oedd Wrecsam yn ystyried bod Aelodau Craffu’n cyflawni swyddogaethau’r Cyngor. Roedd Aelodau Sir y Fflint wedi gofyn am y lefelau uchaf posib o wiriadau ar gyfer eu rolau. Gallai’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wrthod darparu’r lefel o wiriadau y mae ein polisi’n gofyn amdanynt, ond mae’n briodol i ni holi yn hytrach na chyfyngu ar gwmpas y ceisiadau. Roedd yn barod i gyflwyno hyn eto i’r Pwyllgor fel dogfen bolisi i’w chymeradwyo.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Steve Copple at yr argymhellion, gan ofyn a oedd yna bolisi a oedd yn cynnwys y prosesau ar gyfer delio â’r gwiriadau hyn, a nododd ei fod yn teimlo bod y cyfnod o 4 blynedd rhwng gwiriadau’n rhy hir o ystyried cyfnod etholedig y Cynghorwyr. Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gan ddweud fod gan y Cyngor gymysgedd o bolisïau a phenderfyniadau, ond cytunodd i’w ffurfioli mewn dogfen y gellid ei hadolygu yn y dyfodol. Gan gyfeirio at amlder y gwiriadau, dywedodd mai penderfyniad y Pwyllgor oedd hyn ac y gellid ei newid i bob 3 blynedd yn unol â gwiriadau’r gwasanaethau cymdeithasol.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ddiwygiad i’r argymhellion, sef cael gwared â gwiriadau sylfaenol ar gyfer pob Cynghorydd, gan amlinellu ei resymau dros hyn. Teimlai y dylid cynnal gwiriadau sylfaenol ar gyfer aelodau’r Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, ond nid ar gyfer gweddill y Cynghorwyr nad oeddent yn eistedd ar y pwyllgorau hyn. Ni chefnogwyd y cynnig hwn, felly ni chafodd ei gyflwyno.

 

            Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyda’r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Ibbotson nad oedd cosb y gallai’r Cyngor ei gosod, felly nad oedd pwrpas cynnal y gwiriadau. Byddai’r gwiriadau’n cynnig tystiolaeth i benderfynu a ddylid penodi rhywun i’r Cabinet neu i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ian Hodge y gellid ystyried bod nifer o’r trigolion yr oedd wedi ymweld â nhw ers dod yn Gynghorydd yn unigolion diamddiffyn, a theimlai y byddai cael Gwiriad DBS fel rhan o’i rôl yn cynnig tawelwch meddwl iddynt. Teimlai y dylai’r gwiriadau fod yn orfodol i bob Cynghorydd, gan y byddai’n cynnig y lefel honno o ardystiad iddo ef ei hun a hefyd i’r unigolyn yr oedd yn ymweld â nhw.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Antony Wren a ddylai’r Gwiriadau DBS ar gyfer Pwyllgorau Craffu fod yn berthnasol i Aelodau eraill a oedd yn gymwys i ddirprwyo ar y pwyllgorau hynny. Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), gan ddweud y dylai trafodaeth gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gynnwys y ffaith y gallai unrhyw Gynghorydd gael ei enwebu ar y Pwyllgorau Craffu hyn fel dirprwy ar fyr rybudd. Efallai na fyddent yn cytuno, gan ddweud mai ar gyfer aelodau sefydlog neu rai sydd wedi’u henwebu y dylid cynnal y gwiriadau, nid y dirprwyon. Ond gallai fod yn werth holi. Gofynnodd y Cadeirydd a ellid ymchwilio i hyn.

 

            Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn deall y rheswm y tu ôl i sylwadau’r Cynghorydd Ibbotson, ond teimlai y dylid cynnwys penderfyniad ychwanegol fel nad oedd cyfle i unrhyw un wrthod y gwiriadau hyn. Teimlai fod y rhan fwyaf o Gynghorwyr yn dod i gysylltiad dyddiol ag unigolion diamddiffyn ac y byddai’n talu am y gwiriadau iddo ef ei hun. Dywedodd y byddai, fel Arweinydd Gr?p, yn cwestiynu pe bai unrhyw aelod o’i gr?p yn gwrthod cael y gwiriadau sylfaenol. Nes bod hyn yn orfodol, teimlai mai’r hyn a oedd yn cael ei gynnig oedd yr ateb gorau. Cynigiodd yr argymhellion gyda’r argymhelliad ychwanegol.

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y geiriad canlynol ar gyfer y trydydd argymhelliad:-

 

“Lobio drwy rwydweithiau proffesiynol a CLlLC am newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn galluogi lefel fanwl o wiriadau mewn perthynas â phob Cynghorydd, o ystyried natur ddiamddiffyn y bobl y maent yn eu gwasanaethu.”

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roz Mansell ei bod wedi gwneud cais am y gwiriad bythefnos cyn dod yn Gynghorydd. Roedd yn costio £25 ac yn werth pob ceiniog gan ei fod yn cynnig y sicrwydd hwnnw iddi hi ac i’r bobl yr oedd yn dod i gysylltiad â nhw.

 

Cynigiwyd yr argymhellion, gan gynnwys yr argymhellion ychwanegol, gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

Y dylai’r Cyngor gynnal gwiriadau DBS ar gyfer Cynghorwyr fel a ganlyn:

 

 

That the Council should undertake DBS checks on Councillors as follows:

 

(a)              Gwiriadau manwl (heb wiriad rhestrau gwaharddedig) ar gyfer Aelodau sy’n gweithredu fel

 

(a) Aelodau Cabinet

(b) Aelodau’r paneli maethu a mabwysiadu

(b)     Gwiriadau safonol ar gyfer

 

(a)    Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

(b) Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

(c)     Lobio drwy rwydweithiau proffesiynol a CLlLC am newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn galluogi lefel fanwl o wiriadau mewn perthynas â phob Cynghorydd, o ystyried natur ddiamddiffyn y bobl y maent yn eu gwasanaethu.