Mater - penderfyniadau

Town Centre Regeneration Loans

22/01/2024 - Town Centre Regeneration Loans

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd dros yr wyth i ddeng mlynedd diwethaf, ochr yn ochr â chyfleoedd cyllid grant adfywio canol trefi nad oeddent yn ad-daladwy, roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyflwyno cyllid benthyciad cyfalaf ad-daladwy i awdurdodau lleol ledled Cymru.   

 

Drwy ddarparu cyllid benthyciad sydd angen ei dalu’n ôl, nod Llywodraeth Cymru oedd hwyluso cyflawniad ei fframweithiau polisi adfywio strategol sydd yn ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd, cefnogi twf economi leol, arallgyfeirio defnydd yr eiddo o fewn canol y dref, a helpu rhoi bywyd newydd i dir ac eiddo mewn lleoliadau canol dref ledled Cymru.

 

            Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle cafodd ei gefnogi.        

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r dyfarniad cyllid benthyciad ad-daladwy ar gyfer adfywio canol trefi yn Sir y Fflint; a

 

(b)       Cymeradwyo’r meini prawf a’r ymagwedd arfaethedig ar gyfer gweinyddu a rheoli cyllid benthyciad ad-daladwy canol trefi ar draws Sir y Fflint.