Mater - penderfyniadau
Draft Wales Pension Partnership Business Plan 2023/24 to 2025/26
06/10/2023 - Draft Wales Pension Partnership Business Plan 2023/24 to 2025/26
Cyflwynodd Mr Latham, Pennaeth y Gronfa, yr eitem hon i’r Pwyllgor. Eglurodd fod Cynllun Busnes drafft PPC yn cael ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor Llywodraethu heddiw i’w gymeradwyo, ac y byddai newidiadau pellach o bosibl yn cael eu gwneud ar y cam hwn. Byddai hefyd yn cael ei gyflwyno i’r wyth awdurdod cyfansoddol i’w ystyried a’i gymeradwyo. Bydd unrhyw newidiadau pellach yn cael eu cytuno dan awdurdod wedi’i ddirprwyo neu eu hailgyflwyno i’r Pwyllgor os byddant yn rhai sylweddol.
Arweiniodd Mr Latham y Pwyllgor trwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at baragraff 1.04 a oedd yn nodi’r meysydd a fyddai’n effeithio fwyaf ar y Gronfa dros y flwyddyn nesaf,gan gynnwys caffael gweithredwr, trosglwyddo asedau i’r Gronfa Ecwiti Byd-eang Cynaliadwy, defnyddio dosbarthiadau asedau marchnad breifat PPC ac ymgysylltu ar uchelgeisiau ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) a’r hinsawdd.
Eglurodd Mr Latham y rheswm am y cynnydd yn y gyllideb a chadarnhaodd fod Gweithgor Swyddogion PPC wedi adolygu amcanion PPC ac nad oedd unrhyw newidiadau wedi’u hargymell i’r Cydbwyllgor Llywodraethu.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Busnes Drafft PPC gan gynnwys y gyllideb a’r amcanion, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cydbwyllgor Llywodraethu.