Mater - penderfyniadau

Anti-Social Behaviour

27/09/2023 - Anti-Social Behaviour Policy

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) yr adroddiad i roi trosolwg o'r newidiadau a wnaed i'r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd yr effaith a gafodd ar denantiaid.  Roedd y Polisi yn adlewyrchu arfer gorau ac yn diogelu hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau'r risg i'r Cyngor am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth briodol.  Amlinellodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) mai un o'r rhannau allweddol oedd y broses adrodd gywir trwy ffonio 101 i sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei chofnodi’n gywir.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio sylwadau ar yr heriau o geisio cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt a'r caledi a wynebir ganddynt.  Anogodd drigolion i adrodd am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau y gellid cymryd camau gorfodi.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.