Mater - penderfyniadau
Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution.
21/08/2023 - Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a Chyfansoddiad wedi’i ddiweddaru. Roedd wedi darparu gwybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y gweithgor oedd wedi ymgynnull i ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad drafft mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023. Dywedodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor wedi argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin ar gyfer y cyfansoddiad a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023. Roedd drafft o’r cyfansoddiad a’r canllaw iaith gyffredin ynghlwm i’r adroddiad. Roedd y newidiadau yr oedd y gweithgor yn eu cynnig i gyfansoddiad y Cyngor wedi eu dangos fel newidiadau, gan gynnwys y newidiadau ychwanegol a wnaed o ganlyniad i’r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor. Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r gweithgor am ei waith ar y materion a godwyd gan y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad drafft. Cyfeiriodd at baragraff 1.14 o’r adroddiad a dywedodd ei fod yn teimlo nad oedd y pwynt a godwyd gan y Pwyllgor yngl?n ag Undebau Llafur a pholisi rhannu pryderon y Cyngor wedi derbyn sylw. Hefyd, cyfeiriodd y Cynghorydd Ibbotson at baragraff 4.6.21 o’r cyfansoddiad drafft oedd ynghlwm i’r adroddiad a dywedodd os mai’r bwriad oedd i’r Cyngor gynnal y broses hunanasesu yn unig, byddai’r geiriad yn cael ei adolygu i nodi hyn. Roedd y Prif Swyddog wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Ibbotson ac awgrymodd bod paragraff 4.6.21 yn cael ei newid i gynnwys y canlynol “(cynnal ei ddyletswyddau perfformiad o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021)” i egluro’r ddyletswydd hunanasesu corfforaethol a chadarnhau nad oedd wedi’i fwriadu i ddileu swyddogaethau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson i’r eglurhad ar lafar gan y Prif Swyddog gael ei gynnwys yn y paragraff ar gyfer cadarnhad.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Steve Copple.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor bod y cyfansoddiad diwygiedig drafft yn cael ei fabwysiadu, gyda’r eithriad o ddisgrifiadau rôl yn Adran 31 o’r cyfansoddiad drafft ac yn ddarostyngedig i wiriad cysondeb mewnol terfynol, prawf-ddarllen a chroesgyfeirio gyda’r canllaw iaith gyffredin;
(b) bod paragraff 4.6.21 o’r Cyfansoddiad drafft yn cael ei newid i gynnwys y canlynol “(cynnal ei ddyletswyddau perfformio o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021)”
(c) Y bydd unrhyw waith ychwanegol a ystyrir gan y Pwyllgor sy’n cael ei gynnal
mewn perthynas â chyfansoddiad y Cyngor yn ffurfio rhan o raglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.