Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
03/07/2023 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried. Cytunodd i drefnu’r eitemau canlynol y gofynnwyd amdanynt gan y Cadeirydd:
· Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, trefniadau ar gyfer partneriaethau a chydweithio
· Trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer prosiect mawr
· Diogelwch gwybodaeth
· Sicrwydd/trefniadau rheoli Iechyd a Diogelwch
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a’r Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar y newidiadau, derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.