Mater - penderfyniadau

Social Services Annual Report

04/07/2023 - Social Services Annual Report

Eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu fod yr Adroddiad Blynyddol yn ofyniad o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.  Eglurodd fod yr adroddiad y maent yn gweithio arno ar hyn o bryd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mawrth 2022 ac Ebrill 2023, a’i fod yn nodi siwrnai’r Cyngor tuag at welliant dros y cyfnod hwnnw a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, a byddai’n cael ei gyhoeddi yn yr un fformat ag adroddiad 2021/22.  Dywedodd wrth yr Aelodau eu bod yn disgwyl am fwy o wybodaeth ond yn ôl pob tebyg byddai’r canllawiau’n newid, felly gall fformat adroddiad y flwyddyn nesaf edrych yn wahanol iawn i rai’r blynyddoedd diwethaf.  Dywedodd y cyflwynid yr adroddiad drafft i’r Pwyllgor hwn ar 8 Mehefin 2023, unwaith y bydd wedi ei baratoi, gyda’r nod o’i gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2023 yn barod i’w gyhoeddi a bod ar gael i’r cyhoedd yn y Gymraeg a Saesneg ym mis Medi 2023.

 

Eglurodd y Rheolwr Comisiynu bryderon yr Aelodau drwy ddweud nad oedd y cyfarfod heddiw’n adrodd am flaenoriaethau blaenorol.  Yn hytrach, y nod oedd cadarnhau a oeddynt yn fodlon bod blaenoriaethau a nodwyd gan y Portffolio wrth symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf yn gywir cyn iddynt gael eu nodi’n ysgrifenedig yn yr un fformat â’r blynyddoedd cynt gan ddefnyddio’r penawdau a gynigiwyd, a oedd yn defnyddio themâu’r asesiad o anghenion y boblogaeth, pobl h?n, gofalwyr, plant a phobl ifanc, ac ati.  Ailadroddodd yr hyn yr oedd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wedi ei ddweud yngl?n â chyflwyno’r adroddiad drafft yn y cyfarfod ym mis Mehefin er mwyn i’r Aelodau ei gymeradwyo. Byddai wedi ei lunio’n eglur ac yn nodi’r hyn yr oeddynt wedi ei gyflawni ochr yn ochr â blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond pwysleisiodd mai dim ond hyd at yr amser pan fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Gorffennaf y gellid gwneud diwygiadau, er mwyn cyrraedd y dyddiad cau ar gyfer ei gyhoeddi.  Eglurodd y byddai blaenoriaethau eraill yn dod i’r amlwg drwy arferion gwaith arferol, a byddent yn ôl pob tebyg yn cael eu nodi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

            Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau, yn dilyn adolygiad, yn cymeradwyo amlinelliad a blaenoriaethau’r adroddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chyflwyno drafft terfynol i’r Pwyllgor ym mis Mehefin.