Mater - penderfyniadau

Council Plan 2023-28

04/07/2023 - Council Plan 2023-28

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth yr aelodau fod Cynllun y Cyngor wedi ei ystyried eisoes gan Bwyllgorau eraill y Cyngor, yn ogystal â’r Cabinet, ac yr oedd eu barn yn amodol ar unrhyw sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor hwn.  Cytunwyd ar strwythur lefel uchel Cynllun y Cyngor 2023-28 ym mis Hydref 2022, ac mae’n cynnwys saith blaenoriaeth, amcanion lles a nifer o is-flaenoriaethau.

 

Rhoddodd gipolwg ar y blaenoriaethau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor hwn, sef:

 

·         Byw’n Annibynnol

·         Diogelu

·         Darpariaeth Uniongyrchol i gefnogi pobl yn agosach i’w cartrefi

·         Strategaeth Dementia Lleol

·         Amgylchedd Lleol Glân, Diogel gyda Chysylltiadau Da

 

Wrth ymateb i’r Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn gwybod am unrhyw gynlluniau ar gyfer defnyddio safle Tri Ffordd, ac yr oedd yn ansicr a oedd penderfyniad wedi ei wneud, ond credai ei fod ym mherchnogaeth Cyngor Sir y Fflint, a chadarnhaodd y byddai Mocking Bird yn parhau i fod yn rhan o’r cynlluniau allweddol o ran gwasanaethau maethu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am eglurhad pam oedd ffigyrau targed yn is na’r ffigyrau sylfaenol yn yr adroddiad, a rhoddodd nifer o enghreifftiau.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n adolygu’r ffigyrau lle’r oedd targedau’n is na’r data sylfaenol gyda’i dîm, ac y byddai’n dosbarthu’r ffigyrau i Aelodau’r Pwyllgor erbyn diwedd yr wythnos.  Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis, cytunodd y Prif Swyddog y dylai targedau fod yn heriol, a dywedodd eu bod wedi eu gosod ganddo ef a’i dîm, gyda barn a geisiwyd gan y Pwyllgor a chydweithwyr corfforaethol.

 

Cafodd yr argymhelliad yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Ellis a’r Cynghorydd Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles Cynllun y Cyngor 2023-28, yn amodol ar adolygu’r targedau a dosbarthu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor.