Mater - penderfyniadau
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
17/04/2023 - Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i gyflwyno Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y CRT a Chyllideb arfaethedig CRT ar gyfer 2023/24 i'w hystyried.
Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog a’r swyddogion Cyllid Corfforaethol a drafododd y canlynol:
· Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24
· o ble ddaw cyllid y CRT?
· i ble mae’r arian yn mynd - costau cynnal CRT
· sut mae ein costau ni’n cymharu ag awdurdodau eraill sy’n dal stoc - gwerth am arian
· gosod rhent
· chwyddiant arfaethedig o ran rhent
· effaith rhent ar denantiaid ar gynnydd o 5%
· rhent - effaith gosod prisiau rhent yn is na ganiateir dan y polisi rhent
· taliadau gwasanaeth
· gofynion cyllideb y CRT ychwanegol ar gyfer 2023/24
· Rhaglen Gyfalaf y CRT
· datgarboneiddio
· Cyllid Cyfalaf y Cyfrif Refeniw
· benthyca darbodus
· cronfeydd wrth gefn
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Sean Bibby a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
Soniodd y Cynghorydd Helen Brown am y mater o eiddo gwag. Dywedodd bod hyn ar ei uchaf ar hyn o bryd a gofynnodd am yr hyn sydd wedi’i wneud i fynd i'r afael â'r mater yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a sut yr oedd y cynnydd wedi effeithio ar y cynllun busnes.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mike Peers rhoddodd y Swyddog Cyllid Corfforaethol drosolwg o sut yr oedd bron i £300,000 mewn arbedion effeithlonrwydd wedi'i gyflawni yn y CRT.
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon y byddai taliadau gwasanaeth yn cael eu gohirio ar gyfer tenantiaid presennol ond nad oedden nhw’n berthnasol i denantiaid newydd. Gwnaeth sylw hefyd ar fater eiddo gwag a phwysleisiodd yr angen i ddefnyddio arian dros ben yn ystod y flwyddyn ar frys i leihau nifer yr eiddo gwag yn Sir y Fflint.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) eglurhad ynghylch cost taliadau gwasanaeth i denantiaid. Mewn ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau yn ymwneud ag eiddo gwag, rhoddodd y Prif Swyddog y ffigur ar gyfer y 12 mis diwethaf a dywedodd y byddai modd rhoi’r ffigurau ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf ar ôl y cyfarfod.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y CRT a'r gyllideb ar gyfer
2023/24 fel y nodir yn yr adroddiad hwn a'r atodiadau sydd ynghlwm; ac
(b) Ystyried defnyddio'r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael, yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio eiddo gwag yn Sir y Fflint.