Mater - penderfyniadau
Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026
17/05/2023 - Treasury Management Strategy 2023/24, Treasury Management Policy Statement, Practices & Schedules 2023-26
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 ar y cyd â Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys ac Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023-26 fel sydd wedi’i atodi.
Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r Strategaeth ers y flwyddyn flaenorol ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24.
(b) Cymeradwyo Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026; a
(c) Cymeradwyo Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026.