Mater - penderfyniadau

Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution.

17/04/2023 - Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution.

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad wedi’i ddiwygio yn dilyn gwaith y gweithgor y cafodd ei benodi gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y gweithgor wedi ystyried model y canllaw iaith gyffredin drafft mewn cysylltiad â’r cyfansoddiad a’r diwygiadau i Fodel y Cyfansoddiad wedi’i ddiweddaru drafft ac wedi adrodd yn ôl i gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y cafodd ei gynnal ar 12 Ionawr 2023.  Penderfynodd y Pwyllgor wneud yr argymhellion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad i'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 1, paragraff 1.2 (iii), ac awgrymodd y dylid dileu'r is-baragraff gan ei fod yn credu bod swyddogaeth Aelodau Etholedig i gefnogi’r Cyngor a bod yn eiriolwr iddo eisoes wedi’i drafod ym mharagraff (ii).  Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gwelliant ac eglurodd y gallai gael ei gynnwys yn yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad pe bai'n cael ei fabwysiadu. 

 

            Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylai disgrifiadau o’r swyddogaethau ym Model y Cyfansoddiad drafft fod yn amodol ar ymgynghori ag Aelodau perthnasol, cyn i'r cyfansoddiad wedi'i ddiweddaru gael ei fabwysiadu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol; a

 

(b)       Cymeradwyo’r canllaw iaith gyffredin i’w fabwysiadu yn y Cyfarfod Blynyddol,

yn amodol ar gymharu’r ddogfen derfynol a chroesgyfeirio â’r cyfansoddiad drafft er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb rhwng y dogfennauhynny.