Mater - penderfyniadau

Member Workshops, Briefings and Seminars Update

21/08/2023 - Member Workshops, Briefings and Seminars Update

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd neu a drefnwyd ers yr adroddiad diwethaf.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y rhaglen sefydlu wedi’i bwriadu i roi gorolwg i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd o sut roedd y Cyngor yn gweithio, gan gynnwys rheolau a rheoliadau, rôl Aelodau Etholedig a rôl Swyddogion.    Gan fod Aelodau nawr wedi setlo i’w rolau, roedd yn briodol ystyried sut y gallent gael eu cefnogi yn eu datblygiad dros y 4 blynedd nesaf.    Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad a dywedodd bod ‘dadansoddiad anghenion hyfforddiant’ holl Aelodau wedi’i awgrymu i sicrhau bod yr hyfforddiant yn berthnasol i ddymuniadau ac anghenion Aelodau a hefyd i fynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau sy’n bodoli ar draws y Sir.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Hodge a’u heilio gan y Cynghorydd Antony Wren

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod ‘dadansoddiad o anghenion hyfforddiant’ yn cael ei gynnal ar gyfer pob Aelod gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i lywio rhaglenni

datblygu yn well yn y dyfodol.

 

(b)       Os oedd gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer datblygu, eu bod yn cysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod; a

 

(c)       Bod cynllun hyfforddiant a datblygu drafft yn cael ei gyflwyno i’r

Pwyllgor ym mis Mehefin.