Mater - penderfyniadau
Memorials/Legacy in the Countryside Policy
10/08/2023 - Open Spaces and Highway Memorial Policy
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn sgil y galw cynyddol am gofebion mewn mannau agored, yng nghefn gwlad neu wrth ymyl priffyrdd, roedd hi’n angenrheidiol llunio polisi er mwyn sicrhau bod cofebion yn cyd-fynd â chymeriad lleoliadau lleol a’u defnydd a defnyddwyr niferus ac amrywiol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y polisi ac egwyddorion arfaethedig er mwyn sicrhau dull cyson a sensitif i ddarparu ceisiadau am gofebion.
Fe ailadroddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bwysigrwydd o fod â dull sensitif ar destun lle’r oedd cynnydd mewn galw. Mae’r Polisi wedi cael ei ymestyn i gynnwys priffyrdd.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle cafodd ei gefnogi.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod Rhybudd o Gynnig wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir rai blynyddoedd yn ôl, a gafodd ei gefnogi, ond dim ond at dir y Cyngor yr oedd yn berthnasol. Byddai angen rhoi cyhoeddusrwydd i’r polisi er mwyn i’r cyhoedd wybod beth roedd yn rhaid iddynt ei wneud ac er mwyn i’r Cyngor allu amddiffyn ei hun petai strwythurau'n cael eu codi heb gael caniatâd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Polisi.