Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
30/10/2023 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer sesiwn i’r holl Aelodau ar waith Swyddfa’r Crwner.
Yn unol â chais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor. Yn y cyfamser, gofynnwyd i’r Cynghorydd Attridge gysylltu â’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) yngl?n â mater a oedd yn benodol i ward.
O ganlyniad i gais gan y Cynghorydd Sam Swash, byddai adolygiad cyfnodol o berfformiad o ran y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei drefnu.
Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.