Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC)

21/08/2023 - Forward Work Programme and Action Tracking

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a'r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a gofynnodd i'r Aelodau gysylltu â hi os oedd ganddyn nhw unrhyw eitemau i'w cynnig gan fod rhai lleoedd ar gael.Cadarnhaodd hefyd fod y ddwy eitem Tracio Camau Gweithredu wedi'u cwblhau a phan fo’n berthnasol, wedi'u hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tina Claydon i adroddiad ar Gam-drin Domestig gael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a dywedodd yr Hwylusydd y byddai'n adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf ar ôl iddi wirio a oedd yn dod dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn oherwydd gallai ddod dan gylchoedd gwaith eraill.  Awgrymodd y gellid cynnal cyfarfod cyd-bwyllgor i alluogi Aelodau eraill ymuno.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)         Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y
camau gweithredu nad ydynt wedi’u cwblhau.