Mater - penderfyniadau
Treasury Management Mid-Year Review 2022/23
17/04/2023 - Treasury Management Mid-Year Review 2022/23
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22. Dywedodd, fel sy'n ofynnol gan Reolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, fod yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2022 a'r Cabinet ar 26 Medi 2022. Nid oedd unrhyw faterion o bwys wedi’u codi. Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif bwyntiau fel y disgrifir yn 1.05 – 1.09 yr adroddiad eglurhaol.
Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad fe wnaeth y Cynghorydd Paul Johnson ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'i dîm am eu gwaith ar gynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol. Eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer hyn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/23.