Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
17/08/2023 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol gan dynnu sylw at y diweddariadau a wnaed ers y cyfarfod diwethaf. Dywedodd y byddai’r adroddiad parcio ysgol yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar gyfer 23 Mawrth ac y byddai Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Bu iddi hefyd gadarnhau y byddai adroddiad Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023/28 yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mawrth.
Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau. Derbyniwyd dyddiad arfaethedig ar gyfer y gweithdy ar y Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig a bu iddi gadarnhau unwaith y bydd hwn yn cael ei gadarnhau bydd e-bost yn cael ei gylchredeg i Aelodau.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.