Mater - penderfyniadau
Safleoedd Garej
20/03/2023 - Housing Revenue Account (HRA) Garage Sites and Plot Sites update
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar raglen dymchwel garejis y Cyngor ynghyd â gwybodaeth am sut oedd y Cyngor yn asesu’r tir ar gyfer defnydd i’r dyfodol.
Fel rhan o waith buddsoddi parhaus y Cyngor tuag at gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd y safleoedd garejis ar hyd a lled y Sir wedi cael eu hasesu o ran eu cyflwr, gofynion buddsoddi a chreu refeniw/incwm. Roedd y Cyngor wedi datblygu matrics sgorio fel bod pob safle yn cael eu hasesu’n wrthrychol. Cafodd pob un o’r categorïau, fel y dangosir yn yr adroddiad, eu sgorio a’u hail sgorio yn ystod unrhyw arolwg/asesiad newydd ac roedd y cyfanswm yn helpu i flaenoriaethu’r rhaglen ddymchwel.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Asedau fod cael gwared ar dir yn cael ei ystyried pan welwyd nad oedd yn addas yn dilyn arolwg/asesiad ac wedi ystyried pob opsiwn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at adroddiad a gomisiynwyd yn flaenorol ar safleoedd garejis a gofynnodd a oedd hwnnw wedi cael ei ystyried fel rhan o’r sail ar gyfer yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Soniodd hefyd am nifer y garejis nad oedd modd eu defnyddio ar draws y Sir a gofynnodd a oedd opsiwn i symud yn gyflym ar safleoedd y gellid eu datblygu er mwyn creu refeniw ychwanegol i’r Cyngor a helpu â’r diffyg cyflenwad tai yn y Sir. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Asedau fod yr adroddiad blaenorol wedi ffurfio sail ar gyfer y matrics ac wedi cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu garejis i gael eu dymchwel yn gyntaf ynghyd â gweithio gyda’r tîm Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) i ddynodi safleoedd ar gyfer datblygiadau newydd. Mewn ymgynghoriad ag Aelodau lleol a Chadeirydd y Pwyllgor, roedd safleoedd wedi eu dynodi ac yn cael eu datblygu gan y tîm SHARP.
Roedd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yn croesawu'r adroddiad a dywedodd ei fod wedi ymweld â nifer o safleoedd gyda’r Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol i ddynodi safleoedd cyn ymgynghori ag Aelodau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd David Evans ei fod ef a’r Cynghorydd Ron Davies wedi cyfarfod â phreswylwyr Poplar Avenue a Dodd’s Court yn Shotton Uchaf yn ddiweddar ynghylch problemau parcio. Soniodd am y safle garej ym Melrose Avenue oedd wedi cael ei ddymchwel yn ddiweddar a gofynnodd, pan fydd cynlluniau ar gyfer y safle hwn yn cael eu hystyried, a ellid sicrhau bod digon o fannau parcio ar gael i sicrhau nad oes effaith bellach ar strydoedd cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai, cyn cael gwared ar unrhyw dir a chyn unrhyw waith adeiladu newydd, bod angen ystyried yr effaith ar y gymuned gyfan, parcio a thagfeydd. Roedd y Rhaglen Waith Amgylcheddol yn ymdrin â pharcio yn y gymuned.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynigion y rhaglen dymchwel garejis ar gyfer ymdrin â’r safleoedd ac asedau sydd mewn cyflwr gwael; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r matrics a amlinellir yn yr adroddiad ar y meini prawf ar gyfer asesu safleoedd garejis i’w dymchwel.