Mater - penderfyniadau
Housing Revenue Account (HRA) 30 year Financial Business Plan
10/08/2023 - Housing Revenue Account (HRA) 30 year Financial Business Plan
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) drafft a’r Gyllideb CRT arfaethedig ar gyfer 2023/24.
Rhoddwyd manylion llawn am fenthyca, rhenti, rhenti garej, taliadau gwasanaeth, y rhaglen gyfalaf a chyllid cyfalaf a chronfeydd wrth gefn.
O ran cronfeydd wrth gefn, ni ddylid eu defnyddio i ariannu pwysau cylchol ar y Gyllideb gan y byddai hynny’n gwneud y Cynllun Busnes yn anghynaladwy. Bwriad y Cyngor oedd defnyddio £0.589 miliwn o gronfeydd wrth gefn presennol tuag at bwysau untro a nodwyd yng Nghynllun Busnes 2023/24, a ystyriwyd yn fforddiadwy, ac oedd yn gadael digon o gronfeydd wrth gefn i gydbwyso risgiau yn y dyfodol.
Argymhellwyd adolygu’r lefelau yn ystod y flwyddyn a rhyddhau cyfran o unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd dros ben i gefnogi’r gwelliant mewn cyfraddau eiddo gwag ar draws y Sir.
Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn gyllideb wedi’i neilltuo. Roedd y gyllideb CRT a Chynllun Busnes yn dangos y gallai’r Cyngor gyflawni’r Safon Ansawdd Tai Cymru parhaus, y gallai fodloni cynlluniau gwella gwasanaeth ac ymrwymiadau, a chyda benthyca darbodus, y gallai barhau â’i raglen adeiladu tai Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a chyllideb ar gyfer 2023/24 fel y nodwyd yn yr adroddiad ac atodiadau; a
(b) Cytuno i ystyried defnyddio'r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael, yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio eiddo gwag yn Sir y Fflint.