Mater - penderfyniadau
Medium Term Financial Strategy and Budget 2023/24
10/08/2023 - Medium Term Financial Strategy and Budget 2023/24
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 cyn cynnal cyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu penodol trwy gydol mis Rhagfyr, a chyn derbyn y Setliad Dros Dro ar 14 Rhagfyr 2022.
Ers mis Medi, cafodd nifer o newidiadau a risgiau sylweddol eu nodi, a oedd yn debygol o arwain at gynnydd pellach yn y gofyniad cyllidebol ychwanegol ac maent wedi’u manylu yn yr adroddiad. Roedd eu heffaith yn parhau i gael eu modelu a byddai ambell faes yn destun trafodaethau dros yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai’r gofyniad cyllidebol ychwanegol yn codi i oddeutu £32 miliwn.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar y datrysiadau cyllidebol a oedd ar gael i’r Cyngor er mwyn bodloni’r gofyniad cyllidebol ychwanegol a fyddai’n cael ei ddwyn ymlaen i’w ystyried gan yr Aelodau fesul cam, trwy gydol proses y gyllideb.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod pob Cyngor arall yn yr un sefyllfa â Sir y Fflint ac mai’r farn yn gyffredinol oedd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer y darpariaethau y bu iddynt eu haddo.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr holl ddatrysiadau cyllidebol sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cael eu datblygu’n ddi-oed, ac y byddai’r cynigion yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu pob portffolio.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r risgiau a fydd yn cynyddu’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; a
(b) Cyfeirio’r holl bwysau o ran costau ac unrhyw ostyngiadau posibl yn y gyllideb at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu unigol, i’w hadolygu ym mis Rhagfyr.