Mater - penderfyniadau

Economic and Market Update, and Investment Strategy and Manager Summary

03/05/2023 - Economic and Market Update, and Investment Strategy and Manager Summary

Nododd Mr Harkin y pwyntiau allweddol canlynol yn ymwneud â’r economi cyffredinol a marchnadoedd.

-          Roedd sefyllfa’r farchnad a fanylwyd arni yn yr adroddiad yn trafod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022, a oedd wedi bod yn gyfnod heriol i’r marchnadoedd. Yn y DU, ac mewn sawl rhanbarth arall, y sefyllfa anoddaf o hyd oedd y chwyddiant uchel parhaus.

-          Dros y tri mis hyd at 30 Medi 2022, gwelwyd gostyngiad o £64.2 miliwn yng nghyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad i £2,216 miliwn.

-          Roedd economiau datblygedig mawr yn parhau i ddelio â’r sefyllfa anodd mewn perthynas â chwyddiant drwy dynhau polisiau ariannol ychwanegol. Er y cafwyd rhywfaint o ryddhad o ran y chwyddiant tymor byr yn ystod y chwarter, daeth hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod a bu i asedau risg godi a bu i fwyafrif y dosbarthiadau asedau mawr nodi ffigyrau negyddol o ran enillion ar ddiwedd y chwarter.

-          Roedd hwn yn un o’r chwarteri gwaethaf o ran portffolios bond ac ecwiti yn hanes cadw’r asedau hyn ar y cyd ac mae hyn yn amlygu mor anodd mae 2022 wedi bod i fuddsoddwyr.

-          Nid oedd llwybr clir ymlaen ond er bod arwyddion y gallai cyfradd chwyddiant UDA fod ar fin lefelu, nid oedd hyn yn wir am gyfradd chwyddiant y DU.

 

            Cyflwynodd Mr Dickson bwyntiau allweddol i’r Pwyllgor yngl?n â Strategaeth Fuddsoddi’r Gronfa:

-          Roedd tudalen 314 yn amlinellu bod y Gronfa wedi cyflawni enillion o -2.5% ar fuddsoddiad dros Ch3 2022, a bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn.

-          Dros y 12 mis diwethaf, roedd y Gronfa wedi cyflawni enillion o -6.5% ar fuddsoddiad a dros 3 blynedd roedd y Gronfa wedi perfformio’n dda gydag enillion o 4.1% ar fuddsoddiad.

-          Roedd y perfformiad gwell yn erbyn y meincnod strategol yn ychwanegu gwerth at yr holl gyfnodau fel y dengys yn y tabl ar dudalen 314.

-          Ar dudalen 317, gellid gweld fod gan ddyraniad sylweddol y Gronfa i farchnadoedd preifat effaith fuddiol gref, gydag enillion o 24.6% dros gyfnod o 12 mis. Roedd hyn yn awgrym da o gyfanswm yr enillion ar y buddsoddiad, o ystyried y pwysoliad uchel a ddyrannwyd i farchnadoedd preifat.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Medi 2022, ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi, a oedd i bob pwrpas yn egluro’r sefyllfa.