Mater - penderfyniadau

Draft Funding Strategy Statement

03/05/2023 - Draft Funding Strategy Statement

            Eglurodd Mr Middleman mai pwrpas y Datganiad Strategaeth Gyllido oedd i gydbwyso fforddiadwyedd cyfraniadau cyflogwyr yn erbyn cynaliadwyedd cyfraniadau yn y tymor hir ac iechyd ariannol y Gronfa. Nododd y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft:

-       Bydd y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad â chyflogwyr ar gyfraddau cyfraniad cyflogwyr o 1 Ebrill 2023. 

-       Pwysleisiwyd er bod y Datganiad Strategaeth Gyllido yn strwythur i gefnogi cyfraniadau cynaliadwy, mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i ystyried hyn yng nghyd-destun eu cyllidebau eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae cyfathrebu â chyflogwyr ar y mater hwn yn hollbwysig, oherwydd bod derbyn cyfraniadau llawer iawn llai r?an, oherwydd sefyllfaoedd cyllido gwell, am ei gwneud yn anoddach i gyflawni cyfraniadau cynaliadwy yn y dyfodol. Byddai gohebiaeth ysgrifenedig a thrafodaethau yn cael eu cynnal, yn cynnwys yn y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ym mis Rhagfyr 2022 a byddai adborth gan gyflogwyr ar ffactorau amrywiol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r Datganiad Strategaeth Gyllido ym mis Chwefror 2023.

-       Mae isafswm cyfraniad ar gyfer cyflogwyr wedi’i osod drwy baramedrau’r Datganiad Strategaeth Gyllido i dargedu cynaliadwyedd yn y dyfodol, ac mae hyblygrwydd o fewn y paramedrau hyn i gyflogwyr allu talu mwy na’r isafswm yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

 

            O ran y paramedrau allweddol ar gyfer rhagdybiaethau o baragraff 1.05 ymlaen, nodwyd y canlynol gan Mr Middleman:

-       Mae budd-daliadau yn ymwneud â chwyddiant ac felly caiff rhwymedigaethau eu gyrru gan chwyddiant.   Roedd hyn yn rhagdybiaeth allweddol fel rhan o brisiad 2022.

-       Roedd sawl safbwynt am lefel uchel chwyddiant ar hyn o bryd a pha mor hir y byddai’n parhau, a’i bod yn bwysig i’r Gronfa roi ystyriaeth resymol i’r lefel hon dros y blynyddoedd nesaf. Cynigwyd cynyddu lefel gyfartalog hirdymor chwyddiant o 2.4% y flwyddyn i 3.1% y flwyddyn, a oedd yn adlewyrchiad o’r disgwyliad y byddai chwyddiant yn aros yn uchel dros y blynyddoedd nesaf ac yna’n lleihau.

-       Yr agwedd arall o ran chwyddiant oedd y ffaith fod y cynnydd pensiwn a roddwyd yn seiliedig ar chwyddiant yn y 12 mis o fis Medi i fis Medi bob blwyddyn. Felly roedd disgwyl i’r cynnydd pensiwn yn 2023 fod yn 10.1%. Felly, roedd penderfynwyd cynnwys lwfans ar gyfer chwyddiant hysbys i fireinio llif arian y Gronfa h.y. y rhwymedigaethau.

-       Caiff cyfraniadau cyflogwyr eu gyrru gan y berthynas rhwng yr enillion disgwyliedig ar yr asedau (cyfradd gostyngiad) a chyfradd chwyddiant, gan fod hyn yn pennu cyfran y buddion a delir amdanynt drwy enillion asedau yn y tymor hir yn erbyn y rhai hynny a delir amdanynt drwy gyfraniadau cyflogwr.

-       Ar ddyddiad y prisiad, roedd gan Mr Middleman syniad o’r hyn fyddai efallai’n rhagdybiaeth resymol ar gyfer y gyfradd gostyngiad a chwyddiant ond, o fis Mawrth 2022, gwelwyd newid sylweddol i gyfraddau llog, disgwyliadau a’r rhagolygon economaidd byd-eang.  Ystyriwyd hyn a daethpwyd i’r casgliad bod y rhagdybiaethau yn parhau i fod yn rhesymol oherwydd eu bod wedi rhagweld y sefyllfaoedd chwyddiant uwch / twf is i raddau rhesymol.

-       Cynigodd Mr Middleman y dylid lleihau’r gyfradd gostyngiad uwchben chwyddiant o’r prisiad blaenorol o 0.25% (MPD +1.75% i MPD +1.50%).  Cynigwyd gostyngiad tebyg mewn perthynas â rhwymedigaethau gwasanaeth yn y dyfodol h.y. o MPD + 2.25% i MPD+ 2.0%.

-       Roedd y rhwymedigaethau cyn 2014 a oedd yn ymwneud â McCloud yn seiliedig ar gyflog terfynol yr aelod ar y dyddiad ymddeol neu adael y Gronfa ac felly o baragraff 1.08, cynigodd Mr Middleman y dylid cadw’r un rhagdybiaethau hirdymor (h.y. MPD +1.25%). Roedd dewis hefyd wedi’i gynnwys i gyflogwyr allu addasu eu rhagdybiaeth twf cyflog yn seiliedig ar eu disgwyliadau cyflog eu hunain yn y tymor byr. 

-          Roedd y dadansoddiad demograffig a amlinellwyd ym mharagraff 1.09 yn adlewyrchu bod y gwelliant o ran disgwyliad oes yn arafu. O’i gymharu â 2019, roedd dadansoddiad 2022 yn dangos bod disgwyl i bensiynwyr, sy’n 65 mlwydd oed ar hyn o bryd, fyw am lai o amser ar ôl ymddeol, felly roedd hyn yn lleihau’r rhwymedigaethau ym mhrisiad 2022. Roedd effaith ariannol y ffactorau demograffig eraill a ystyriwyd yn llai e.e. salwch a chyfnewidiad arian parod. Roedd y dadansoddiad yn dangos bod llai o bobl, ar gyfartaledd, yn dewis arian parod, felly roedd hyn wedi cael ei adlewyrchu yn y rhagdybiaethau.

-          Roedd cyfnodau adferiad yn dibynnu ar p’run ai oedd y cyflogwr mewn diffyg neu ag arian dros ben, fel yr amlinellwyd o baragraff 1.10. Cynigodd Mr Middleman, os oedd cyflogwr mewn diffyg ym mhrisiad 2022, byddent yn cael gostyngiad o 3 blynedd er mwyn cyrraedd targed lefel ariannu o 100% cyn gynted â phosibl. O ran y cyflogwyr hynny ag arian dros ben, byddent yn anelu i gadw at yr un cyfnod adfer ag yr oedd ganddynt ym mhrisiad 2019, a oedd yn arafu ad-daliad unrhyw arian dros ben i’r cyflogwr. Roedd y ddau gynnig yn ceisio cyflawni cynaliadwyedd cyfraniadau a thegwch rhwng cenedlaethau i dreth dalwyr.

-          Roedd costau McCloud bellach wedi’u cynnwys yn y rhwymedigaethau ac felly ar y fantolen, yn unol â chyfarwyddyd y Llywodraeth. Nodwyd bod costau McCloud wedi dod i ben ar 31 Mawrth 2022 ac felly ni fyddant yn effeithio ar gyfraddau gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Roedd paragraff 1.16 yn amlygu canlyniadau’r prisiad dros dro ar 31 Mawrth 2022. Felly, crynhodd Mr Middleman fod y Gronfa mewn sefyllfa gadarnhaol gyda lefel ariannu gyfartalog o 105% o’i gymharu â lefel ariannu o 91% ym mhrisiad 2019. Ysgogwyd hyn yn bennaf gan berfformiad buddsoddi cryf rhwng 2019 a 2022 a’r cyfraniadau diffyg a dalwyd. Fodd bynnag, gwrthbwyswyd hyn gan rai o’r rhagdybiaethau actiwaraidd h.y. y newid o ran y gyfradd gostyngiad a chyfradd chwyddiant, ond roedd y rhagdybiaethau demograffig yn gwella’r sefyllfa rywfaint.

Roedd cyfraddau gwasanaeth yn y dyfodol yn fwy sensitif i’r gostyngiad i’r gyfradd ostyngiad yn erbyn chwyddiant gan nad oedd perfformiad cadarnhaol asedau i wrthbwyso’r costau hyn.  Roedd cyfraddau gwasanaeth y dyfodol wedi cynyddu, ar gyfartaledd, o 17.3% i 18.7%.

Yn gyffredinol, wrth edrych ar gyflogwyr unigol, roedd lefelau ariannu cryfach ar draws y Gronfa ond costau gwasanaeth uwch yn y dyfodol, felly, ar y cyfan, i nifer o gyflogwyr, mae’r DSG arfaethedig yn arwain at ostyngiad mewn cyfraniadau i adlewyrchu’r gwelliant hwn. Fel y nodwyd yn gynharach, bydd yr ymgynghoriad â chyflogwyr yn canolbwyntio ar rai o’r risgiau i gyflogwyr mewn perthynas â chwyddiant a’r rhagolwg economaidd byd-eang yng nghyd-destun cynaliadwyedd cyfraniadau, i annog y cyflogwyr hynny, a allai ei fforddio, i dalu mwy nag isafswm cyfraniad cyflogwr.

Dywedodd Mr Ferguson fod yr hinsawdd wedi newid i gyflogwyr a’u cyllidebau, gan nodi’r gwahaniaeth mewn dyfarniadau cyflog o’i gymharu â naw mis yn ôl ac roedd yn falch fod gan y gronfa arian dros ben o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol. Roedd yn credu ei bod yn rhesymol i ganiatau i gyflogwyr gael rhywfaint o hyblygrwydd o amgylch cyfraniadau yn y dyfodol ac yn croesawu’r hyblygrwydd â gynigiwyd yn y Datganiad Strategaeth Gyllido.

O ran y dadansoddiad o sefyllfa lefel gyllido newid hinsawdd, amlygodd y Cynghorydd Swash fod adran o’r DSG heb ei chwblhau ar dudalen 207 gan nad oedd yr Actiwari wedi cwblhau’r dadansoddiad o’r risgiau pontio hinsawdd a ffisegol. Nododd fod hon yn ffactor bwysig wrth ystyried y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft. Cadarnhaodd Mr Middleman bod disgwyl i’r dadansoddiad gael ei gwblhau erbyn y Pwyllgor nesaf. Eglurodd Mr Middleman hefyd bod y rhagdybiaethau hirdymor a gynigiwyd yn y Datganiad Strategaeth Gyllido yn cynnwys lwfans penodol ar gyfer y risgiau newid hinsawdd hyn er nad oedd y sefyllfaoedd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd. Nodwyd y byddai’r sefyllfaoedd hyn yn gipolwg o’r hyn allai ddigwydd mewn amgylchiadau penodol o amgylch y trosglwyddiad.

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r rhagdybiaethau actiwaraidd allweddol arfaethedig a’r paramedrau ariannu, ym mharagraffau 1.05 - 1.10 yr adroddiad, a fydd yn cael eu cynnwys yn y Datganiad Strategaeth Gyllido.

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft ar gyfer ymgynghori â chyflogwyr (gan nodi y gellid ond cynnwys rhywfaint o wybodaeth pan fydd y prisiad actiwaraidd wedi’i gwblhau) ac yn nodi’r canlyniadau dros dro ym mharagraff 1.16.

(c)          Bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r gwaith o fireinio a chwblhau’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, cyn yr ymgynghoriad ffurfiol â chyflogwyr, gan roi ystyriaeth i gyngor Actiwari’r Gronfa.