Mater - penderfyniadau
Council Plan 2022/23 Mid-Year Performance Reporting
10/08/2023 - Council Plan 2022/23 Mid-Year Performance Reporting
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa canol blwyddyn y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.
Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, 9% yn cael eu monitro’n agos, a 21% nad oeddent yn cyrraedd y targed.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn gadarnhaol mewn perthynas â chynnydd, gyda chategorïau da/boddhaol yn cyfateb i 94%. Manylwyd ar y 9% mewn statws coch yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau canol blwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2022/23 yn cael eu cymeradwyo a’u cefnogi;
(b) Bod y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23 yn cael ei gymeradwyo a’i gefnogi; a
(c) Bod yr Aelodau’n cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.