Mater - penderfyniadau
Consultation on the Reform of Business Rates
10/08/2023 - Consultation on the Reform of Business Rates
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, yn ceisio barn ar ystod eang o welliannau i Ardrethi Busnes.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y cynigion yn cynnwys:
· Cylchredau ailbrisio amlach
· Gwella’r llif gwybodaeth rhwng y llywodraeth a thalwyr ardrethi
· Rhoi mwy o hyblygrwydd i LlC ddiwygio rhyddhadau ac eithriadau
· Adolygu rhyddhadau ac eithriadau
· Darparu mwy o gyfleoedd i amrywio’r lluosydd
· Gwella sut y caiff y swyddogaethau prisio eu gweinyddu
· Mesurau pellach i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o ymatebion a argymhellir ar y cynigion gwella, a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad, i gwestiynau penodol a ofynnwyd gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Ystyried cynigion yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru a rhoi awdurdod i’r Rheolwr Refeniw a Chaffael, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.