Mater - penderfyniadau
Housing Strategy
16/01/2023 - Housing Strategy
Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y wybodaeth ddiweddaraf flynyddol ar gynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Tai Lleol 2019-24. Roedd cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Dai a oedd yn nodi 3 blaenoriaeth gyda meysydd allweddol i weithredu arnynt o dan bob blaenoriaeth, fel a ganlyn:-
· Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir
· Darparu cymorth a sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref
· Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch y gostyngiad yn y targed ar gyfer nifer yr eiddo i'w hadeiladu, eglurodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y galw yn cael ei lywio gan faint o dir oedd ym mherchnogaeth y Cyngor a'i bod yn bosib i'r Cyngor gaffael rhagor o eiddo a chynyddu'r targed pan fo hynny'n bosibl.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal hefyd nad oedd yn credu bod Un Llwybr Mynediad at Dai yn rhwystr i'r Cyngor allu rhentu eiddo yn gyflym.
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge, a’i eilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai mis Hydref 2022.