Mater - penderfyniadau

Annual Performance Report 2021/22

11/04/2023 - Annual Performance Report 2021/22

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.  Rhoddodd wybodaeth gefndir gan ddweud bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adolygu cynnydd ar Flaenoriaethau’r Cyngor fel yr oeddent wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor 2021/22 a’r ddogfen mesuryddion ategol (Rhan 2).

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at ganlyniadau’r dangosyddion perfformiad fel yr oeddent wedi’u nodi yn adran 1.04 yn yr adroddiad gan egluro bod y perfformiad ar fesuryddion Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol gyda 73% o’r dangosyddion perfformiad yn cyrraedd neu’n rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, o gymharu â 67% y flwyddyn flaenorol.  Gan gyfeirio at waith Rheoleiddio, Archwilio ac Arolygu, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi gwneud unrhyw argymhellion yr oedd yn rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â nhw hyd yma.

 

Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei bod yn bwysig nodi bod cyflawniadau’r Cyngor o fewn Cynllun Gwella 2021/22 wedi’u gwneud wrth iddo gael ei gefn ato ar ôl effaith y pandemig Covid a goblygiadau cythrwfl economaidd ym marchnadoedd y byd.  Ategodd, er gwaethaf yr heriau, fod perfformiad o fewn gwasanaethau wedi bod yn gadarnhaol gyda 73% yn cyrraedd neu’n rhagori ar eu targedau.  Soniodd y Cynghorydd Roberts am y gwaith “da” oedd wedi’i wneud mewn cymunedau yn Sir y Fflint a dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i gryfhau a gwella systemau’n gyffredinol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.  Canmolodd y swyddogion a’r staff am eu gwaith yn ystod y blynyddoedd diweddar digynsail ac anodd. 

 

Eiliwyd y Cynghorydd Ian Roberts gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Mynegodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst bryder nad oedd digon o bwyslais wedi’i roi yn yr Adroddiad Blynyddol i’r meysydd hynny yr oedd yn hysbys bod angen eu gwella a soniodd am y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol a chyflawni camau gweithredu ar ôl adolygiadau Sicrwydd Rheoli Risg fel enghreifftiau.  Cydnabu’r Prif Weithredwr fod angen datblygu rhai meysydd ymhellach a dywedodd ei fod wedi gwneud ymrwymiad i gadw golwg ar gynnydd a byddai’n parhau i wneud hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Parkhurst yngl?n â’r Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndir a chyd-destun i egluro’r rhesymau dros y perfformiad.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryder bod 19% o fesuryddion perfformiad wedi methu’r targed o dipyn a dywedodd mai hon oedd y lefel uchaf yn y 5 mlynedd ddiwethaf.   Eglurodd y Prif Weithredwr pam nad oedd rhai o’r mesuryddion wedi cyrraedd y targed gan grybwyll yr heriau a ddaeth yn sgil sefyllfa economaidd y DU, newidiadau i bolisi Llywodraeth Cymru (gan sôn am greu’r Bartneriaeth Ansawdd fel un enghraifft), a oedd wedi effeithio ar y mesuryddion perfformiad.  Mewn ymateb i sylwadau eraill gan y Cynghorydd Jones yngl?n â’r 11 mesurydd perfformiad y cyfeirid atynt yn yr adroddiad a oedd heb gyrraedd y targed o bell ffordd, cytunwyd y byddai’r ffigwr hwn yn cael ei groeswirio yn erbyn y meysydd gwella portffolio a oedd wedi’u dynodi yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol.

 

Cododd y Cynghorydd Sam Swash bwynt am gywirdeb ar dudalen 14 yn yr adroddiad a dywedodd fod y cyfeiriad at werth cymdeithasol a’r targed o £2854 yn anghywir, ac y dylai ddweud £2,854,266 fel yr oedd ar dudalen 27.

 

 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021–22.