Mater - penderfyniadau
Amendments to Clwyd Pension Fund Constitution
21/08/2023 - Amendments to Clwyd Pension Fund Constitution
Wrth gyflwyno'r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndir am Gronfa Bensiynau Clwyd. Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i:
- adlewyrchu’r cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yw’r uwch
swyddog â chyfrifoldeb am gyflawni’r Gronfa Bensiynau’n weithredol, yn hytrach na’r Prif Weithredwr; a
- sicrhau bod y Cyfansoddiad yn adlewyrchu statws rheoli cronfa bensiynau
fel swyddogaeth anweithredol yn llawn.
Roedd newidiadau achlysurol eraill wedi'u cynnwys yn yr Atodiad i'r adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bryder ynghylch y cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd fyddai’r uwch swyddog â chyfrifoldeb am gyflawni’r Gronfa Bensiynau’n weithredol, yn lle’r Prif Weithredwr, oherwydd ei fod yn credu bod hyn yn dirprwyo awdurdod i lefel is. Mewn ymateb eglurodd y Prif Swyddog fod y Cyfansoddiad yn disgrifio pwy oedd â'r cyfrifoldebau a chan gyfeirio at dudalen 20 o'r adroddiad fel enghraifft, dywedodd fod y Cyfansoddiad hefyd yn amlinellu pwy fyddai'n gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau hynny. Bwriad y cynnig oedd rhoi mwy o eglurhad ynghylch cyfrifoldeb gweithredol.
Mewn ymateb i bryder arall a gododd y Cynghorydd Ibbotson, dywedodd y Prif Swyddog fod y Prif Weithredwr yn cadw'r cyfrifoldeb cyffredinol gan ei fod yn Uwch Swyddog y Cyngor. Nid oedd dirprwyo i swyddogion wedi atal y Prif Weithredwr rhag gwrthod penderfyniadau pe bai angen gwneud hynny gan eithrio pan oedd gan swyddog swydd statudol a chyfrifoldebau penodol.
Ymatebodd y Prif Swyddog hefyd i'r cwestiwn a gododd y Cynghorydd Steve Copple ynghylch llwyth gwaith a chapasiti ac eglurodd fod Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd eisoes yn cyflawni'r swyddogaethau perthnasol.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Antony Wren a'r Cynghorydd Ian Hodge.
PENDERFYNWYD:
Argymell y newidiadau a amlinellwyd yn yr Atodiad i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i’r Cyngor.