Mater - penderfyniadau
Waste Strategy
28/03/2023 - Waste Strategy
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) yr adroddiad a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith sylweddol a wnaed ganddynt. Cynhaliwyd tri adolygiad o’r Strategaeth Wastraff yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf ac roedd y pedwerydd adolygiad presennol yn canolbwyntio ar lefelau perfformiad is y Cyngor a chyflawni’r targedau hynny i osgoi cosbau ariannol. Gosodwyd y targedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru a dilynodd y Cyngor y glasbrint hwnnw, gydag un o’r targedau yn 64% eleni a 70% erbyn 2024/25. Y nod oedd anfon 70% o’r holl wastraff a gynhyrchwyd i’w ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio gyda’r gwastraff gweddilliol (30%) yn cael ei anfon i gyfleuster creu ynni o wastraff.
Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) wybodaeth am lefelau perfformiad dros y blynyddoedd diwethaf, yr effeithiau yn dilyn y pandemig a’r dewisiadau ar gael i gyrraedd y targedau statudol. Yna cyfeiriodd yr Aelodau at adrannau penodol o’r adroddiad ac amlinellodd y cefndir deddfwriaethol a’r targedau a osodwyd gan LlC a’r lefelau perfformiad a gyflawnwyd gan y Cyngor. Rhoddwyd gwybodaeth am y dirwyon tordyletswydd, a oedd wedi’u hamlygu fel risg sylweddol i’r Awdurdod. Yn 2021-2022 methodd y targed ailgylchu o 3,314 tunelli a ellir ei gymharu i ddirwy torri rheol posib o £662,888 os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cyflwyno cosb ariannol.
Darparwyd trosolwg o’r cyfarfod a gynhaliwyd y llynedd gyda’r Gweinidog gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) a oedd yn dilyn gostyngiad o ran perfformiad y flwyddyn flaenorol yn 2020-2021 o 17 tunnell ac fe awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) ei bod yn debygol y byddent yn cael eu galw eto eleni i esbonio pam nad oedd yr awdurdod wedi cyrraedd ei dargedau yn 2020-2021. Roedd hyn yn risg sylweddol i’r gwasanaeth gan nad oedd cyllideb i dalu dirwy o’r fath a gallai effeithio ar sut y byddai gwasanaethau yn cael eu darparu yn y dyfodol. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 19 a oedd yn cynnwys rhagolygon ar berfformiad ar gyfer eleni, a oedd yn dangos pe bai’r awdurdod yn parhau ar y lefel hon, byddai’n cyfateb o 63.17%, a fyddai’n fyr i’r targed o 622 tunnell gyda dirwy bosibl o fwy na £124,000. Darparwyd trosolwg o’r tunelli a gyflawnwyd dros yr haf a’r gaeaf ac nid oeddent yn gwella gyda gwastraff gweddilliol yn cynyddu. Roedd cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu, ond roedd gwastraff gweddilliol wedi gwneud hefyd, ac nid oedd hyn yn helpu i gyflawni targedau. Darparwyd gwybodaeth am y Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) a ddywedodd bod LlC yn ystyried y posibilrwydd o ddod â hwn yn grant economi gylchol a fyddai’n golygu risgiau ariannol ychwanegol i’r Awdurdod. Cyfeiriwyd yr Aelodau at y tabl ar gyfraddau tunelli ar dudalen 20 ac Atodiad 2 a oedd yn cynnwys y sleidiau o’r gweithdai i Aelodau a chymhariaeth o berfformiad Sir y Fflint yn erbyn awdurdodau eraill gyda’r awdurdodau hynny ar y brig ac yn cyflawni’r targedau’n cyfyngu faint o sachau duon y gallai aelwydydd gael gwared arnynt. Yn Sir y Fflint roedd aelwydydd yn cael bin 180 litr a oedd yn caniatáu ar gyfer 90 litr yr wythnos gyda’r awdurdodau hynny a oedd yn perfformio orau yn rhoi cyfyngiad o 60 litr yr wythnos. Gan gyfeirio at y dadansoddiad cadarnhaodd fod 50% o’r gwastraff a oedd wedi’i gynnwys yn y bin du yn ailgylchadwy, roedd 27% ohono yn wastraff bwyd.
Ym mhwynt 1.11, darparwyd crynodeb o’r adborth a gafwyd o’r ddau weithdy i Aelodau a gynhaliwyd ym mis Tachwedd ac fe gadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) bod y methiant i gyflawni’r targedau ailgylchu statudol bellach wedi’i gofrestru fel risg goch ar gyfer y portffolio. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) at yr ystyriaethau a’r dewisiadau ar dudalen 22 a darparodd wybodaeth fanwl am amlder casgliadau, modelu rowndiau a chostau cysylltiedig. Rhoddwyd gwybodaeth am orfodaeth uwch a ffioedd cynyddol ar gyfer tanysgrifiadau gwastraff gardd ynghyd ag addysg uwch i sicrhau bod mwy o drigolion yn ailgylchu.
Wrth ymateb i sawl cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) yr ymatebion canlynol.
O ran y dirwyon tordyletswydd, cadarnhaodd fod awdurdodau lleol eraill wedi cael eu dirwyo cyn y pandemig. Eglurodd bob tro roedd yr awdurdod yn methu ei dargedau, roedd cynrychiolwyr o’r Cyngor yn cael eu galw i gyfarfod y Gweinidog i ddarparu esboniad yngl?n â pham nad oedd y targedau hyn wedi cael eu cyflawni a beth oedd yn cael ei wneud i liniaru hyn.
Gan gyfeirio at y polisi glasbrint, cadarnhaodd ei fod yn cynnwys argymhellion i leihau capasiti’r bin gwastraff gweddilliol, i ddefnyddio biniau 140 litr, lleihau amlder casgliadau a darparu cyngor ar ddim casgliad ymyl palmant ar gyfer gwastraff gweddilliol.
Gan symud ymlaen at orfodaeth gwastraff ochr y ffordd, nid oedd gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) yr wybodaeth wrth law ond cytunodd i ddosbarthu’r wybodaeth i Aelodau yn dilyn y cyfarfod. Cadarnhaodd fod rhybuddion cosb benodedig wedi cael eu cyflwyno a bod swyddogion wedi targedu ardaloedd i ddarparu addysg ac arweiniad i drigolion. Roedd gwelliannau dros dro yn cael eu gwneud fel arfer ond wedyn roedd yr aelwydydd yn dychwelyd i’w hen arferion. Amlinellodd y broses orfodaeth gwastraff ochr y ffordd tri cham a oedd wedi lleihau’r angen am RhCB.
Yn ôl Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol, y tro diwethaf y bu i’r awdurdod gael ei alw i gyfarfod gyda’r Gweinidog, methwyd y targed o 17 tunnell ond mae’n debygol y bydd cyfanswm eleni tua 600 tunell a mwy o’r targed. Dywedodd nad oedd rhai o’r dewisiadau ar gael yn fforddiadwy ond addysg oedd y ffordd ymlaen, gan dargedu wardiau a oedd yn rhoi deunyddiau i’w hailgylchu yn eu biniau. Gobeithiwyd gwneud hyn ar draws Sir y Fflint.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) na fyddai hyn yn ddigon i gyflawni’r targed o 70% erbyn 2024 ar ei ben ei hun gyda’r hyn a oedd yn cael ei gasglu r?an a bod angen gwneud mwy i gyfyngu faint o wastraff gweddilliol oedd yn cael ei gasglu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y dewisiadau ym mhwynt 1.14 a gofynnodd a oedd unrhyw un ohonynt yn rhoi sicrwydd y byddai’r awdurdod yn cyrraedd y targed ailgylchu. Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod y perfformwyr gorau yn cyflawni hyn drwy gyfyngu faint o wastraff gweddilliol a gesglir fesul aelwyd i 60 litr yr wythnos.
Dywedodd y Cadeirydd na fyddai newid maint biniau neu amlder casgliadau yn unig yn darparu datrysiad ond bod angen addysg hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood fod 60 litr yr wythnos yn ymddangos i fod yn realistig i drigolion a gofynnodd pa fath o fin fyddai ei angen ar gyfer casgliadau bob tair neu bedair wythnos. Gofynnodd hefyd beth oedd disgwyliad oes y biniau ac a fyddai’n bosibl i gael biniau o ddau faint gwahanol ar yr un pryd. Wrth ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithrediadau Gwastraff fod disgwyliad oes y biniau oddeutu 15 mlynedd a’u bod wedi bod yn cael eu defnyddio ers 10 mlynedd bellach heb lawer o ddifrod. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod yr awdurdod eisoes yn cynnig biniau mwy (240 litr) i deuluoedd o chwech neu fwy felly ni fyddai hynny’n broblem. Soniodd hefyd, er nad oeddent wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, bod awgrymiadau wedi cael eu gwneud yn y gorffennol i gynnal cynllun peilot yn targedu ardal benodol i ddeall capasiti biniau ac amlder casgliadau, ac y gellid ystyried hyn eto.
Dywedodd y Cynghorydd Dan Rose y byddai ganddo ddiddordeb yn y posibilrwydd o gynnal cynllun peilot i gasglu gwybodaeth bellach ac fe awgrymodd y byddai cynllun peilot o gasgliadau bob tair wythnos yn amharu llai ar y cyhoedd na chasgliadau bob pedair wythnos.
Teimlai’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi mai’r rheswm pam yr oedd y gwasanaeth yn y sefyllfa hon oedd oherwydd nad oedd y perygl o ddirwyon tordyletswydd wedi cael ei gyflwyno i’r cyhoedd i alluogi gwell dealltwriaeth. Teimlai y dylai adnoddau ychwanegol gael eu defnyddio i sicrhau bod strategaethau ar newid ymddygiad pobl yn llwyddiannus. Teimlai ei fod yn annheg i’r Prif Swyddog a Swyddogion gael eu galw i gyfarfod y Gweinidog pan mae etholwyr y sir oedd yn methu ailgylchu, ac yn rhoi gwastraff bwyd yn y bin. Roedd y credu y dylid anfon taflen i drigolion, gyda’u biliau Treth y Cyngor, a oedd yn amlygu’r sefyllfa roedd y Cyngor yn ei wynebu yn glir, gyda nodyn yn dweud “peidiwch â rhoi hwn yn eich bin du”.
Wrth ymateb i sawl cwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose, darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) y canlynol:-
Yngl?n â’r pwynt am finiau du, cadarnhaodd bod modd eu hailgylchu a’u bod yn cael eu torri’n beledi bach i wneud cynnych arall.
Wrth ymateb i’r ail bwynt am ymgysylltu a’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) dywedodd fod adolygiad o effeithiolrwydd perfformiad wedi dechrau ym mis Ebrill 2021 gyda data cymharu ar beth yr oedd awdurdodau lleol eraill wedi’i gyflawni a beth yr oeddent yn ei wneud yn wahanol. Y neges amlwg o’r adolygiad hwn oedd bod yr awdurdodau lleol hynny yn rhoi cyfyngiad ar swm y gwastraff gweddilliol a oedd yn cael ei gasglu ar ymyl y palmant. Roedd yna hefyd gyfarfodydd misol yn cael eu cynnal gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru i archwilio beth allai’r Cyngor ei wneud yn wahanol ac argymhellwyd bod adolygiad yn cael ei gynnal o’r Strategaeth Wastraff, a dyna pam y cynhaliwyd yr adolygiad hwn.
O ran y cwestiwn am orfodi, soniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) am y cynllun peilot Adnabod Amledd Radio (RFID) a gynhaliwyd gydag ailgylchu gwastraff bwyd yn Sir Ddinbych a dywedodd y gellid edrych ar rywbeth tebyg yn Sir y Fflint.
Wrth ateb y cwestiwn am ddwysedd a swm, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod ailgylchu wedi cynyddu o 26% y llynedd a bod gwastraff gweddilliol wedi cynyddu o fwy na 9%. Cadarnhaodd bod y ffigyrau ailgylchu yn 51,000 tunnell yn 2020/21. Roedd trigolion yn ailgylchu mwy ond yn anffodus roedd cyfraddau gwastraff gweddilliol hefyd yn parhau i gynyddu.
Wrth ymateb i’r sylw am blâu a chnofilod yn mynd i mewn i’r sachau duon, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd), cyn belled â bod pobl yn manteisio ar y casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu wythnosol, ni ddylai fod unrhyw wastraff ar ôl yn y biniau du i’w denu. Roedd hyn ond yn digwydd os oedd nwyddau darfodus neu wastraff bwyd yn cael eu rhoi yn y bin du.
Wrth gyfeirio at deuluoedd mwy, cadarnhawyd bod biniau mwy eisoes yn cael eu darparu i deuluoedd o 6 neu fwy.
Teimlai’r Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cadarn yn cynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael) fod Cynghorwyr yn rhan o’r datrysiad drwy ddarparu cymorth a chyngor i drigolion ar lefel leol.
Wrth ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod yr Awdurdod wedi symud o’r safle uchaf ond dau i’r trydydd o’r gwaelod drwy Gymru o ran perfformiad ac nad oedd unrhyw beth wedi newid o ran casgliadau, addysg neu orfodi. Mewn gwirionedd, roedd mwy yn cael ei wneud r?an nac yn flaenorol. Cadarnhaodd nad oedd cyfyngiad o ran nifer y bagiau y gallai trigolion eu rhoi allan i’w hailgylchu, a dyna’r rheswm pam y cyflwynwyd y bagiau. Roedd trigolion yn cael eu hannog i roi sawl bag allan a dylent fod yn cael eu casglu a gofynnodd i’r Cynghorydd Attridge hysbysu’r tîm yngl?n â pha strydoedd oedd yn cael problemau. Cadarnhaodd hefyd nad oedd y gwastraff o’r gwasanaeth casglu clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol yn mynd i safle tirlenwi, roedd yn hytrach yn mynd i safle ynni o wastraff.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithrediadau Gwastraff fod yr awdurdod weithiau’n defnyddio cerbydau casgliadau ymyl palmant i gasglu deunyddiau i’w hailgylchu, yn enwedig dros y Nadolig a chyfnodau prysur pan roedd y cerbydau casglu gwastraff yn cael eu defnyddio i gasglu deunyddiau i’w hailgylchu, megis cardfwrdd. Gofynnodd i’r Cynghorydd Attridge am y wybodaeth yngl?n â’r casgliadau sachau duon a fethwyd a byddai’n ymchwilio ymhellach. Roedd yr achosion hyn yn eithaf prin a soniodd am y nifer fach iawn o gwynion a dderbyniwyd dros gyfnod y Nadolig. Ategodd eto, os oedd gan unrhyw Gynghorwyr broblemau yn eu wardiau, dylent anfon e-bost at ei dîm i’w hymchwilio ymhellach.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd fod y sefyllfa’n bryderus iawn gan nad oedd y Cyngor yn gallu fforddio i dalu’r dirwyon tordyletswydd pan oedd cymaint o arbedion eisoes yn cael eu gwneud i alluogi cyllideb gytbwys. Roedd yn rhaid canfod datrysiadau a theimlai’n gadarnhaol y gellid cyflawni hyn oherwydd bod yr awdurdod wedi’i wneud o’r blaen pan yr oedd yn y safle uchaf ond dau drwy Gymru. Efallai na fyddai’n amhoblogaidd i gael casgliadau bob tair neu bedair wythnos fel yr oedd awdurdodau eraill wedi’i wneud neu wario £1m ar finiau newydd oherwydd y bydd ein biniau presennol yn para am rai blynyddoedd eto. Dros y blynyddoedd diwethaf, roedd Covid wedi newid y ffordd yr oedd pobl yn byw eu bywydau, ond roedd trigolion wedi cydweithredu gyda’r Cyngor yn y gorffennol ac roedd yn hyderus y gellid eu hannog i ymuno i gyrraedd ein targedau ailgylchu. Teimlai fod angen addysg ynghyd ag ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd brys yn hysbysu trigolion o’r hyn oedden nhw a’r Cyngor yn ei wynebu, oherwydd y gallai hyn effeithio ar gyfraddau Treth y Cyngor. Roedd angen dangos agwedd gadarn tuag at y trigolion hynny a oedd yn gwrthod ymuno a helpu i gyrraedd y targedau hyn.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) y byddai’r awdurdod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth casglu â chymorth rhad ac am ddim ac nad oedd yn cael ei effeithio gan yr adolygiad hwn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen at dai amlfeddiannaeth a gofynnodd tybed a fyddai landlordiaid, ar ôl cael eu trwyddedau, yn gallu talu am finiau cymunedol a oedd yn cael eu casglu’n wythnosol. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i siarad â’r Cynghorydd Owen y tu allan i’r cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion cyntaf yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Hodge.
O ran yr ail argymhelliad, awgrymodd y Cynghorydd Dan Rose ein bod yn aros tan ar ôl y cynllun peilot yn gyntaf ac yn edrych ar y data cyn edrych ar y dewisiadau. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Roy Wakelam.
Wrth gyfeirio at y drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn falch iawn o glywed un o’r Aelodau Cabinet yn dweud nad oedd y dewis i leihau capasiti biniau wythnosol yn cael ei gefnogi ac mai addysg oedd y ffordd ymlaen. Dywedodd Aelod Cabinet arall nad oedd yn awyddus i newid i gasgliadau bob tair neu bedair wythnos a gofynnodd bod hyn yn cael ei nodi.
Cafodd y trydydd argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad ailgylchu presennol y Cyngor yn erbyn targedau statudol.
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r dewisiadau o ran modelau darparu casgliadau gwastraff amgen ac argymell i’r Cabinet bod cynllun peilot yn cael ei gynnal i lywio’r broses o wneud penderfyniad er mwyn cyflawni’r targedau ailgylchu statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bod y Pwyllgor yn ystyried y cynnig i gynyddu’r ffi danysgrifio ar gyfer gwastraff gardd i adennill costau gweithredu cynyddol.