Mater - penderfyniadau

Streetscene Standards

07/08/2023 - Streetscene Standards

Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad a oedd yn amlinellu’r bwriad i adolygu’r Safonau presennol ac argymell newidiadau sy’n cysylltu’n agosach i Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes portffolio.  Eglurodd mai’r bwriad oedd sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd a phreswylwyr, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.  Diben yr adroddiad oedd egluro diffygion y ddogfen bresennol a cheisio cefnogaeth gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Stryd a Chludiant i adolygu a chefnu ar y Safonau presennol. Byddai hyn yn creu cyfres o fetrigau perfformiad mwy cadarn a pherthnasol y gellid eu mesur, monitro ac adrodd amdanynt yn fwy effeithiol.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cynnull Gr?p Tasg a Gorffen i gefnogi adolygu’r Safonau, a chefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylwadau ar yr angen i sicrhau bod y Safonau’n cael eu gweithredu, nid eu hanwybyddu.  Yr oedd yn cefnogi ffurfio Gr?p Tasg a Gorffen.  Wrth ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Peers, anogodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr Aelodau i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ddiffygion o ran perfformiad yn uniongyrchol i Swyddogion, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, neu’r Ganolfan Gyswllt fel bod y mater yn cael ei gofnodi, ei neilltuo, a chamau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.

 

Cododd y Cynghorydd Richard Lloyd bryderon yngl?n â’r oedi a brofwyd gan rai preswylwyr wrth gael mynediad at y gwasanaethau a ddarperir gan Ganolfannau Cyswllt, a gofynnodd i ddarpariaeth ychwanegol fod ar gael yn ward Saltney er mwyn galluogi preswylwyr lleol i dalu am wasanaethau.  Gwnaeth sylwadau hefyd yngl?n â glanhau llochesi bws, a chyfeiriodd at ddarpariaeth llochesi bws yn ei ward.  Gwnaeth Aelodau sylwadau yngl?n â’r angen i ddarparu gwybodaeth gyfredol am amserlenni mewn llochesi bws, a sicrhau bod amserlenni bysiau ar gael i’r cyhoedd mewn fersiwn wedi ei argraffu yn ogystal ag ar-lein.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnig i gefnu ar ddogfen bresennol Safonau’r Gwasanaethau Stryd, a chefnogi’r adolygiad arfaethedig i’w disodli gyda chyfres ddiwygiedig o fetrigau perfformiad sy’n ategu safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad yn ôl goblygiadau statudol presennol, Cynllun y Cyngor a pholisïau presennol;

 

(b)       Cyflwyno adroddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau; a

 

(c)        Chynnull Gr?p Tasg a Gorffen i ystyried datblygiad y Safonau newydd.