Mater - penderfyniadau
Local Toilet Strategy
07/08/2023 - Local Toilet Strategy
Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth gefndir a hysbysodd fod gofyn i Gyngor Sir y Fflint adolygu a darparu datganiad cynnydd ‘diwedd cyfnod’ ar gyfer y strategaeth toiledau lleol o fewn blwyddyn i bob etholiad cyffredin ar gyfer ei ardal. Dyddiad etholiad llywodraeth leol yng Nghymru oedd 5 Mai 2022, a oedd yn golygu mai’r dyddiad hwyraf ar gyfer adolygiad oedd erbyn 4 Mai 2023. Diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r cefndir deddfwriaethol a nodi sut oedd y Cyngor yn bwriadu adolygu’r strategaeth bresennol.
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Ardal yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at amserlen arfaethedig yr adolygiad fel yr amlinellir ym mharagraff 1.07 yr adroddiad. Adroddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd ar yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus statudol a oedd i’w gynnal.
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n â darpariaeth toiledau cyhoeddus mewn cymunedau lleol yn y dyfodol. Gofynnodd a oedd mwy o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru neu ffrydiau cyllido amgen i wella’r cyfleusterau sydd ar gael ar hyn o bryd. Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Attridge, a dywedodd fod cyfleoedd newydd yn cael eu hystyried i gynnig darpariaeth ledled y Sir.
Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylwadau am y cyfleusterau sydd ar gael mewn Cynghorau Tref a Chymuned, a chyfeiriodd at ddatblygiad arfaethedig yn ward Mynydd Bwcle.
Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi adolygiad arfaethedig o’r strategaeth toiledau lleol; a
(b) Chymeradwyo’r dull gweithredu a’r amserlenni y bwriedir eu dilyn, fel y nodir yn yr adroddiad.