Mater - penderfyniadau

Council Plan 2022/23 Timeline Review

15/11/2022 - Council Plan 2022/23 Timeline Review

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad ar adolygu’r amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23 yn unol â chais y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.   Ers ei gyhoeddi, mae’r atodiad wedi cael ei ddiwygio a’i ail-gyflwyno i egluro’r cysylltiadau gyda themâu.

 

Er y cydnabyddir busnes craidd o ddydd i ddydd o fewn y ddogfen, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu nodi pryd caiff cerrig milltir eu cyrraedd.    Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg bod yr amserlen yn ymwneud â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 sy’n cynnwys dwyn rhai eitemau ymlaen y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.   Roedd swyddogion yn canolbwyntio ar ddatblygu Cynllun pum mlynedd y Cyngor ar hyn o bryd a fyddai’n cynnwys rhagor o fanylion penodol mewn perthynas â defnyddio Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i nodi pynciau ar gyfer eu Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol.

 

Gan gydnabod hynny, tynnodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Attridge eu cynnig yn ôl.   Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd cynnwys Cynllun newydd y Cyngor ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cadeirydd a’u heilio gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cytuno ag amserlenni diwygiedig Rhan 1 Cynllun y Cyngor; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn aros i’r Cynllun Cyngor 5 mlynedd gael ei gwblhau cyn adolygu ymhellach.