Mater - penderfyniadau
Investment and Funding Update
28/03/2023 - Investment and Funding Update
Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol:
- Roedd y cynllun busnes ar y trywydd iawn ar hyn o bryd o ran y gwaith ar y prisiad actiwaraidd a datganiad y strategaeth fuddsoddi. Fodd bynnag, roedd y datblygiadau’n ymwneud â buddsoddiad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar ei hôl hi oherwydd yr oedi gyda’r ymgynghoriadau oedd i fod i gael eu cynnal yn yr haf.
- Un peth newydd ar gyfer y chwarter hwn gan WPP oedd y wybodaeth ddiweddaraf am bleidleisio ac ymgysylltu a benthyca stoc. Byddai hyn yn cael ei ddiweddaru’n barhaus yn y dyfodol. Robeco oedd yn cynnal y pleidleisio ac ymgysylltu a Northern Trust oedd yn cynnal y benthyca stoc.
- Roedd tudalennau 419 i 464 yn trafod y gweithgaredd ymgysylltu a phleidleisio a gynhaliodd Robeco ar ran WPP. Roedd y stociau a restrwyd yn yr adroddiad ar gyfer WPP yn gyffredinol ac roeddent yn cynnwys yr holl is-gronfeydd, nid y rhai yr oedd y Gronfa yn buddsoddi ynddynt yn unig. Roedd y Gronfa yn buddsoddi mewn tair is-gronfa ar hyn o bryd.
- Byddai’r Gronfa yn ymgysylltu â Robeco yn flynyddol ar bynciau ymgysylltu i’r dyfodol. Os bydd unrhyw aelod o’r Pwyllgor yn dymuno i unrhyw themâu gael eu trafod yn y dyfodol, gallai Mrs Fielder eu rhoi ymlaen i gael eu cynnwys.
- Roedd crynodeb o’r gweithgaredd pleidleisio yn yr adroddiad ac roedd yr is-gr?p UC wedi derbyn yr adroddiadau pleidleisio unigol y tu ôl i’r crynodebau.
- Maes arall yr oedd y gr?p UC yn edrych arno oedd benthyca gwarannau ac roedd crynodeb o’r incwm a grëwyd yn y stoc ym mharagraff 1.08.
- Ers y cyfarfod diwethaf, roedd buddsoddiad pellach wedi’i wneud yn y Copenhagen Infrastructure Partners Energy Transition Fund. Roedd hyn yn unol ag awydd y Gronfa i fuddsoddi’n fwy cynaliadwy, gan gefnogi ac elwa o gyfleoedd y byddai’r pontio i economi carbon isel yn eu creu.
- Roedd y Gronfa hefyd yn gweithio gyda Mercer ar 5 neu 6 o gyfleoedd buddsoddi ychwanegol mewn meysydd cynaliadwy ac effaith.
- Roedd sawl newid i’r gofrestr risg yng ngoleuni’r risgiau cynyddol oherwydd lefelau cyfraddau llog a chwyddiant. Byddai’r rhain yn parhau i gael eu monitro’n agos.
- Mae’r heriau o ran adnoddau a recriwtio, y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol, hefyd yn effeithio ar y Tîm Cyllid gan fod ganddynt dair swydd wag ar hyn o bryd - cyfrifydd cronfa, cyfrifydd dan hyfforddiant a swydd llywodraethu a gweinyddu.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor y diweddariad.