Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
28/03/2023 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad a chadarnhaodd nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a oedd wedi’u rhestru. Cadarnhaodd fod bob cam gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi’u cwblhau. Darparwyd gwybodaeth ar weithdy Estyn a sesiwn friffio’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion ac atgoffwyd aelodau y byddai’r gweithdy GwE yn cael ei gynnal ddydd Llun, 5 Rhagfyr am 2.00pm.
Cynigiodd Mrs Lynn Bartlett ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.