Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
28/03/2023 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u cynnwys i’w trafod yng nghyfarfod mis Chwefror, sef y Strategaeth Coetir, y wybodaeth ddiweddaraf am Newid Hinsawdd, Cynllun Rheoli Adnoddau D?r drafft D?r Cymru 2024 (Ymgynghoriad Cyhoeddus), a Chynllun Rheoli Parc Gwepra. Yna, cyfeiriodd at yr eitem Cymunedau am Waith a oedd wedi cael ei thynnu’n ôl a gwahoddodd y Prif Swyddog i ddarparu gwybodaeth am hyn.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr eitem hon wedi cael ei chynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol oherwydd pryderon yngl?n â chyllid Llywodraeth Cymru. Roedd yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn nesaf a dyna pam bod yr eitem yn cael ei thynnu Dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei ddarparu o fewn y flwyddyn nesaf yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan raglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith.
Cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 2 Chwefror a fyddai’n cynnwys eitem ar y cyd ar Barcio Cerbydau Tu Allan i Ysgolion a Gorfodi. Byddai Aelodau o’r Pwyllgor hwn yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw ar gyfer yr eitem. Yna fe eglurodd bod y Polisi Profedigaeth yng Nghefn Gwlad yn awr wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod mis Chwefror.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu at weithdy a oedd yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr ar “Reoli Mannau Agored, Torri Gwair a Natur”. Roedd yna hefyd y Meini Prawf Eithriadau ar gyfer gweithredu terfyn cyflymder 20mya ym mis Chwefror a’r Cynnydd o ran newid Fflyd CSFf i drydan neu danwyddau amgen ym mis Hydref.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a gwahoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r rhwydwaith gan Drafnidiaeth Cymru. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ddeddfwriaeth fysiau yng Nghymru a oedd wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor a dywedodd fod adolygiad o’r rhwydwaith yn rhan o hyn. Roedd yn dal i fod yn aneglur pryd fyddai hyn yn cael ei weithredu ac y byddai hyn yn aros yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu nes y cynhaliwyd yr adolygiad. Awgrymwyd y dylid cael gwared ar hyn am r?an nes yr oedd mwy o wybodaeth ar gael a chytunodd y Pwyllgor â hynny.
Yna, cyfeiriodd yr Hwylusydd at Farchnadoedd Canol Tref a dywedodd y byddai Niall Waller yn anfon papur briffio i aelodau’r Pwyllgor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Wrth gyfeirio at sbwriel o lefydd gwerthu bwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod hyn yn gyfarwyddyd LlC ac awgrymodd y dylid anfon llythyr gan y Pwyllgor hwn yn amlygu’r problemau sy’n cael eu profi. Cytunodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Prif Swyddog ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Yna, cyfeiriodd yr hwylusydd at y gweithdy ar roi terfyn cyflymder 20mya mewn grym, a fyddai yn awr yn cael ei gynnal ym mis Mawrth.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.