Mater - penderfyniadau
Rapid Rehousing
28/11/2022 - Rapid Rehousing
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd gyda datblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. Roedd gofyn bod Awdurdodau Lleol yn datblygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym i ddangos sut y bydden nhw’n symud dull newydd ymlaen i atal ac i liniaru digartrefedd.
Nododd yr adroddiad bod blaenoriaethau lefel uchel wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, ac roedd cynllun gweithredu drafft y byddai Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid ei angen ei ddarparu i gyflawni trawsnewid mewn ataliad digartrefedd a gwasanaeth digartrefedd statudol, a dechrau pontio i Ailgartrefi Cyflym.
Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal gwybodaeth fanwl ar yr Egwyddorion Allweddol, fel a ganlyn:-
1. Mynd i’r afael â Digartrefedd drwy bartneriaeth gadarn ac effeithiol.
2. Ailfodelu ein dulliau o ran data, systemau, polisiau a darpariaeth gwasanaeth.
3. Sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb sydd ei angen.
4. Trawsnewid ein cynnig tai dros dro
5. Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a chael gwared ar rwystrau i bobl sydd eisiau mynediad at dai fforddiadwy ar unwaith.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod adroddiad ar y Cynllun Gweithredu, Heriau a Blaenoriaethau penodol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Hydref 2022.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am wybodaeth ar ddemograffeg pobl sy’n nodi eu bod yn ddigartref. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod y mwyafrif o bobl yn sengl, a oedd yn amlygu’r galw o’r angen am lety un person yn y Sir.
Rhoddodd y Cynghorydd Pam Banks sylw ar bobl yn cael eu cartrefu mewn pentrefi gwledig, a theimlodd bod diffyg cymorth/ cefnogaeth yn y gymuned. Gofynnodd a oedd eu hanghenion yn cael eu hasesu cyn cael eu cartrefu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal o ran llety mewn argyfwng, bod tai yn brin ond ychwanegodd bodd yr holl anghenion yn cael eu hasesu gyda chynlluniau gweithredu personol yn cael eu llunio’n unol â hynny.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig gan Gynghorydd David Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r egwyddorion o Ailgartrefi Cyflym.