Mater - penderfyniadau
Climate Change Strategy
18/04/2023 - Climate Change Strategy
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar y cynnydd gyda’r Strategaeth Newid Hinsawdd sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y Cabinet yn Chwefror 2022. Roedd y cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd yn amlinellu’r cynnydd wrth greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030 ac wedi’i rannu yn themâu allweddol. Yn ogystal â phenodi swyddog profiadol, byddai sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd (o’r cyn Fwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd) yn helpu i fewnosod newid hinsawdd ar draws y sefydliad.
Cyflwynwyd y Pwyllgor i Alex Ellis, y Rheolwr Rhaglen Lleihau Carbon a Newid Hinsawdd, a wnaeth cyflwyniad yn cynnwys:
· Cyd-destun
· Cyflawniadau hyd yma
· Datblygiad y Strategaeth - llinell sylfaen ac ymrwymiad
· Cynllun Gweithredu Di-garbon Net
· Adnodd Staff Presennol
· Strwythur Llywodraethu
· Llinell Amser hyd at 2030
· Adroddiad Cynnydd 2021/22
· Argymhellion
· Blaenoriaethau ar gyfer 2023-24
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Parch Brian Harvey, siaradodd y Rheolwr Rhaglen am yr ymwybyddiaeth cyhoeddus cynyddol o’r problemau ymysg pobl ifanc a’r cynlluniau i ymrwymo ymhellach. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at weithio gyda phartneriaid a chyn weithdai Aelodau i hyrwyddo newid positif.
Yn dilyn cwestiwn gan Allan Rainford ar benderfyniadau buddsoddi, cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at waith rhagweithiol i adnabod cyfleoedd ariannu yn cynnwys prosiectau ar y cyd a dewisiadau Buddsoddi i Arbed, er mwyn cyflawni buddion canolig i hirdymor. Mae cyflwyno’r hyfforddiant llythrennedd carbon i Aelodau Etholedig ac uwch reolwyr yn helpu rhanddeiliaid i ddeall y buddion o’r buddsoddiadau.
Fel Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, fe gyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at yr arbedion â gyflawnwyd drwy reoli tymheredd gwresogi yn yr adeiladau. Mae’r Rheolwr Rhaglen yn cyfeirio at y mesurau rheoli tymheredd mewn stoc adeiladau annomestig a chadarnhaodd fod eiddo domestig y Cyngor heb eu cynnwys yn sgôp y data allyriadau carbon.
Gwnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) sylwadau ar gamau gweithredu i leihau allyriadau carbon o weithgareddau caffael a oedd wedi cynyddu yn ystod 2021/22.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at yr angen am fwy o eglurhad ar y cerrig milltir yn y cynllun gweithredu i gyflawni’r nodau yn y strategaeth, a nodwyd hynny gan y Rheolwr Rhaglen. Wrth ymateb i’r pryderon am y lefel o ffocws ar gaffael, cyfeiriwyd at y fethodoleg ar adrodd ar allyriadau carbon sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fynychu ac am y cyflwyniad manwl.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi gan y Pwyllgor;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwelliannau i gyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynnydd cadarnhaol y Cyngor wrth symud ymlaen at gyflawni ei uchelgeisiau newid hinsawdd;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o gychwyn ymwreiddio mesurau carbon i mewn i brosesau caffael o fewn portffolio peilot y Cyngor;
(d) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r achos dros swydd ac adnoddau Buddsoddi i Arbed er mwyn cyflwyno Systemau Rheoli Adeiladau o fewn mwy o’n hadeiladau, i wella’r broses o reoli’r defnydd o ynni; a
(e) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o ymwreiddio egwyddorion newid hinsawdd drwy’r Cyngor cyfan, drwy gyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon i Aelodau Etholedig, Uwch Reolwyr a swyddogion eraill sy’n gwneud penderfyniadau allweddol.