Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 4)
10/08/2023 - Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 4)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cynnwys y sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredu o £0.285 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen ei dalu o gronfeydd wrth gefn)
· Rhagwelir y byddai balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2023 yn £6.911 miliwn (cyn effaith y dyfarniad cyflog terfynol)
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.188 miliwn yn uwch na’r gyllideb.
· Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £6.287 miliwn.
Gwnaeth Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, a byddai’r awdurdod yn parhau i hawlio taliadau ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim yn 2022/23.
Roedd swm o £2.066 miliwn a gyflwynwyd yn dal i fod ar gael o’r gronfa frys wreiddiol o £3 miliwn a glustnodwyd. Roedd cyllideb 2022/23 a gymeradwywyd ym mis Chwefror yn cynnwys £3.250 miliwn ychwanegol i’r gronfa wrth gefn i ddarparu amddiffyniad darbodus yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig. Yr arwyddion cynnar oedd, er bod y peryglon o ganlyniad i COVID-19 wedi lleihau’n sylweddol, roedd y perygl o ran chwyddiant wedi cynyddu. Byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro'n agos dros y misoedd nesaf a byddai unrhyw effeithiau'n cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Ceir manylion dyfarniadau cyflog ar gyfer staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23.