Mater - penderfyniadau
Welsh Government Consultation - Council Tax Reform
10/08/2023 - Welsh Government Consultation - Council Tax Reform
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 1 Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddiwygio Treth y Cyngor.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y cynigion yn cynnwys:
· Cwblhau ailbrisiad Treth y Cyngor
· Cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth a oedd yn fwy blaengar
· Gwella'r fframwaith o ostyngiadau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau
· Gwella Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o ymatebion a argymhellir ar y cynigion diwygio i gwestiynau penodol a ofynnodd Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Awdurdodi'r Rheolwr Refeniw a Chaffael i ymateb i'r ymgynghoriad ar gynigion Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio Treth y Cyngor fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.